Y ddau frawd sydd methu galw ei gilydd yn 'ti' - na 'chi'

  • Cyhoeddwyd
Philip a Richard LewisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fo a fe

"Helo sut mae e bore 'ma?"

"Da iawn. Sut mae e?"

"Eithaf da. Oedd e'n godro bore 'ma?"

Nage, nid sgwrs gyda Lydia Tomos o C'mon Midffîld - oedd yn siarad efo pobl yn y trydydd person - ond dau frawd o Sir Benfro sy'n gwneud rhywbeth tebyg.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Mam, be' 'da chi'n neud?" "Yfed ei hen gwrw budur o i weld be sy'n ei wneud o a'r sgamp Picton yna mor wirion... Mae hi isho gorffen ei pheint!"

Mae Philip a Richard Lewis, sy'n dod o ardal Pencaer, Sir Benfro, yn cyfeirio at ei gilydd yn y trydydd person ers iddyn nhw gofio - a byddai'r ddau yn teimlo'n chwithig yn galw 'ti' neu 'chi' ar ei gilydd.

Ar ôl ymateb darllenwyr i erthygl a fideo Cymru Fyw ar y defnydd o 'ti' a 'chi', fe siaradodd y ddau frawd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am eu profiad o fethu defnyddio'r un o'r ddau air ar ei gilydd.

Richard: "Rhywbeth yn y teulu yw e, fi heb glywed llawer ohono tu fas i'r teulu - mam a dad, wncls ac antis oedd yn byw yn Pencaer neu Wdig, ger Abergwaun.

"Fasa Wncl yn galw 'fe' am tad fi, roedd mam-gu yn galw mam yn 'hi' a vice versa efo mam-gu yn dweud "shwt ma' hi heddiw?", ond falle fydda cefndryd o Drefdraeth ddim yn dweud hynny. Jest y teulu agos oedd e.

"Ond dwi wedi siarad gyda rhyw foi o bentref Croes-goch cwpwl o flynyddoedd yn ôl ac roedd e'n referio ata i yn y trydydd person. Mae Croes-goch hanner ffordd rhwng Abergwaun a Tŷ Ddewi - falle bod pocedi ar hyd yr arfordir sy'n dweud e?

"Sa i wedi clywed e lot - a ddim yn rhywbeth o ni'n meddwl ambyti lot nes oedd rhywun yn y coleg a phobl yn chwerthin bod fi'n dweud 'fe' yn lle 'ti' a meddwl bod e'n ddoniol.

"Dwi'n cofio siarad efo Phil yng Nghaerdydd a oedd boi o Lanelli da ni yn y grŵp ac roedd e'n gorwedd ar y lawr yn chwerthin yn meddwl bod ni'n hillarious. Mae'n naturiol i ni, ond mae'n beth od iawn mewn ffordd a sai'n siŵr shut ddechreuodd o."

Philip: "Ro ni'n cymryd y peth yn hollol ganiataol roedd o'n hollol naturiol tan o ni'n coleg a dechrau cwrdd â Chymry Cymraeg o wahanol ardaloedd oedd wedi synnu bod ni'n galw 'fe' ar ein gilydd.

"Sa i erioed wedi galw fy mrawd yn 'ti'. Fase fe'n teimlo'n annaturiol iawn i alw fe yn 'ti'."