Ti neu chi? Eich safbwyntiau chi

  • Cyhoeddwyd
Nain, Taid, wyrionFfynhonnell y llun, skynesher

Yn ddiweddar, fe ofynnon ni i chi beth ydych chi'n ei ddefnyddio wrth siarad â rhywun - 'ti' neu 'chi'? Ac fe ruthrodd yr ymatebion i mewn!

Arwydd o barch?

Yn draddodiadol, mae 'chi' yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o barch, ac fe nododd rhai bod cael pobl yn eu galw yn 'ti' yn teimlo braidd yn amharchus, ac y dylai'r arfer o ddefnyddio'r ddau derm barhau.

Meddai Anwen o Ynys Môn:

"I bobl o'm cenhedlaeth i, mae cael pobl ieuengach yn ein galw yn 'chdi' yn teimlo fel diffyg parch, ond mae rhaid cydnabod bod yr oes wedi newid a phawb llawer mwy anffurfiol y dyddiau yma.

"Fodd bynnag, mae parch yn gonglfaen cymdeithas war, ac fe fyddai'n braf iawn gweld pobl yr oes yma yn parchu'r geiriau bach pwysig yma."

Cyfeiriodd Gillian o Gaerdydd at hyn hefyd:

"Rwy'n dal i deimlo'n anghyffyrddus pan bo dieithryn hanner fy oed yn fy ngalw yn ti ac yn synnu mai dyna sy'n arferol am wn i yn yr ysgolion Cymraeg."

Ond beth yw'r arfer gyda'r bobl hynny sydd yn haeddu'r mwyaf o barch - ein rhieni?!

Nid yw Danielle, a gysylltodd o Ddyffryn Nantlle, yn unigryw yn y ffaith ei bod yn defnyddio 'chi' wrth siarad â'i rhieni - ond nid yw'n dod yn naturiol iddi:

"Rwyf yn agos iawn at fy rhieni, ac yn gweld o'n od defnyddio 'chi' wrth siarad gyda nhw. Hoffwn ddefnyddio 'ti' oherwydd dwi'n meddwl byddai'n gwneud ni fwy hafal. Ond, mi roedden nhw'n galw ei rhieni nhw yn 'chi' ac rwy'n credu ei bod nhw'n meddwl ei bod yn dangos fwy o barch. "

Yn ôl Ffiona, a gysylltodd ar Facebook, newidiodd beth oedd hi'n galw ei thad:

Soniodd Angharad o Gaerdydd, a hithau'n 33 oed, ei bod hi o'r genhedlaeth lle mae llai o blant yn defnyddio 'chi' wrth siarad â'u rhieni:

"'Ti' ydw i'n galw ar fy rhieni. Gan mai 'ti' y mae Mam yn galw ar ei rhieni hithau, 'ti' ydw i hefyd yn galw ar fy mam-gu a tad-cu (ar ochr fy mam). Fe ddigwyddodd yn naturiol heb i'n rhieni ddweud wrthym beth y dylem eu galw."

Tu a vous, tú ac usted

Wrth gwrs, nid yw'r ffenomenon yn ddieithr mewn ieithoedd eraill, fel Ffrangeg, Sbaeneg a Llydaweg. Roedd y bardd Aneirin Karadog ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru i drafod y pwnc, ac mae'n credu fod yna le yn dal i ddefnyddio 'chi' mewn rhai sefyllfaoedd.

Fel y dywedodd, wrth sôn am ei gyfaill, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd: "Dwi'n 'nabod e'n ddigon da i alw 'ti' arno fe, ond pan wela i e' yn Steddfod Conwy, yn ei regalia aur, falle bydda i'n teimlo fod rhaid i fi alw 'chi' arno fe!"

Disgrifiad,

Pa un fyddwch chi'n ei ddefnyddio, a phryd? Cawn wers ieithyddol gan Aneirin Karadog.

Ond pwysleisiodd nad yw galw rhywun yn 'ti' yn arwydd o amharch. Iddo ef, mae'n gallu bod yn arwydd o anwyldeb, meddai, yn hytrach na phellter - ac mai dyna pam ei fod yn galw ei fam-yng-nghyfraith yn 'ti'.

Dim 'chi' yn y Beibl...

Nododd ambell un ei bod hi'n ddiddorol nad ydyn ni'n cyfeirio at Dduw yn 'chi', ond yn hytrach, y 'Ti' mwy 'anffurfiol' ac nad oes 'chi' yn y Mabinogi chwaith.

Mae Eleri Llwyd yn cofio un o ymadroddion ei mam-yng-nghyfraith sy'n cyfeirio at hyn hefyd - "Ti Duw, chi ddiafol". Mae hefyd yn sôn fod defnyddio 'chi' ar rywun yn fwy naturiol iddi os nad yw hi'n rhy hoff ohonyn nhw.

"Yn bersonol, pan yn delio â pherson nad ydwi'n gyfforddus yn eu cwmni, chi fyddan nhw - yr iaith Gymraeg yn rhoi modd i ymbellháu," meddai.

"Pan fydd y rhai bach yn smalio bod yn rhywun arall, 'chi' fyddan ni'n ddefnyddio. Modd i gadarnhau y ffaith mai smalio ydan ni, yn enwedig os ydi'r cymeriad yn y gêm yn annymunol neu'n ddrwg."

Arwydd o henaint?

Soniodd eraill na ydyn nhw'n hoff o gwbl o bobl yn eu galw yn 'chi', fel y dywedodd Donna, ar Facebook:

Doedd Geraint Cynan ddim yn rhy hoff o'r peth 'chwaith!

Mae hyn yn awgrymu fod pobl yn dal yn dueddol o deimlo fod angen galw pobl hŷn a phobl 'bwysig' yn 'chi', er parch.

Ond pam bod rheidrwydd i alw pobl hŷn yn 'chi', oedd cwestiwn David ar Facebook:

Mae'n amlwg felly fod yna wahaniaeth barn am y pwnc, ac er fod 'ti' yn cael ei ddefnyddio yn llai aml gan rai pobl y dyddiau yma, efallai fod yna dal le iddo mewn cymdeithas.

Yn ôl Llifon, a gysylltodd ar e-bost, mae'n defnyddio'r ddau derm gyda gwahanol bobl, am wahanol resymau - ac efallai nad yw'r rhesymeg pam bob amser yn glir. Fel y pwysleisiodd, "mae'n gymhleth!".

Mae'n amlwg fod nifer yn cytuno gyda chi/ti, Llifon!

Hefyd o ddiddordeb: