Arestio merch 17 oed ar amheuaeth o gynnau tân Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân mewn tafarn wag yng Nghasnewydd.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd y tân yn nhafarn y Centurion nos Iau yn un difrifol.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod merch 17 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a'i bod yn parhau yn y ddalfa.
Fe wnaeth y llu gadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda'r gwasanaeth tân.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019