Addysg: 'Llafur yn gwneud popeth o fewn ein gallu'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles AC
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r sefyllfa "hyd yn oed yn waeth" os na fyddai Llafur yn arwain y llywodraeth, yn ôl Mr Miles

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud na ddylai'r cyngor sydd yng nghanol y ffrae dros gyllido ysgolion honni nad ydyn nhw'n gyfrifol.

Gyda Cyngor Bro Morgannwg yn dweud eu bod yn cael £600 yn llai gan Lywodraeth Cymru i bob disgybl na'r cyfartaledd, dywedodd Mr Drakeford mai mater i'r cyngor ydy datrys y sefyllfa.

Mae athrawon ym Mhenarth wedi dechrau glanhau coridorau a thoiledau ar benwythnosau i geisio arbed arian.

Yn ôl yr ysgolion, dyw gweinidogion ym Mae Caerdydd ddim yn darparu digon o gyllid.

Mynnodd y Gweinidog Brexit Jeremy Miles bod y llywodraeth wedi gwneud popeth y gallen nhw i amddiffyn "gwasanaethau rheng-flaen", er gwaethaf "toriadau llym" llywodraeth San Steffan.

Daeth sylwadau'r ddau ar drothwy cynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno.

Mae penaethiaid ysgolion ym Mhenarth wedi ysgrifennu at rieni'n dweud bod eu cydweithwyr yn glanhau'r adeiladau ar benwythnosau er mwyn eu llogi i godi arian.

"Yn y flwyddyn sydd i'w ddod, bydd yna £880m yn llai gan Lywodraeth Cymru i'w wario nag y bydde ganddo ni o ganlyniad i'r toriadau dwfn sydd wedi ei weithredu gan y llywodraeth Geidwadol," meddai Mr Miles.

"Ry'n ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen ac i amddiffyn gwasanaethau awdurdodau lleol."

'Mater iddyn nhw'

Ond dywedodd Mr Drakeford: "Dydi hi ddim yn glir i mi pam bod Bro Morgannwg mewn sefyllfa unigryw yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu darparu addysg i'w plant ar ddydd Gwener. Mae hwnnw'n gwestiwn sydd angen iddyn nhw ei ateb.

"Ry'n ni wedi darparu mwy o gyllid ar gyfer addysg nad erioed o'r blaen. Ry'n ni wedi talu'r cynnydd yn nhal athrawon. Ry'n ni wedi talu'r cynnydd ym mhensiynau athrawon.

"Mae awdurdodau addysg eraill yng Nghymru wedi gallu dod i ben gyda'r cyllid mewn ffordd na sydd wedi arwain at argyfwng y mae Bro Morgannwg yn credu y mae ynddi.

"Mater iddyn nhw ydi i ddatrys hyn a dydyn nhw methu honni fel arfer nad ydyn nhw'n gyfrifol am y gwasanaethau pan mae ganddyn nhw gyfrifoldeb llawn a democrataidd."

'Pwysau sylweddol'

Ychwanegodd Mr Miles: "Ry'n ni'n cydnabod yn llwyr bod yna bwysau sylweddol ar bobol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Ond drwy elwa o ddatganoli a Llywodraeth Cymru sy'n cael ei arwain gan y blaid Lafur ry'n ni wedi gallu blaenoriaethu'r adnoddau hynny sy'n prinhau, sy'n golygu ein bod yn gwneud popeth y gallen ni i amddiffyn y gwasanaethau rheng-flaen.

"Ond os ydw i'n siarad gyda chyd-weithwyr ar draws Cymru sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, maen nhw, heb os, dan bwysau."

Byddai'r sefyllfa "hyd yn oed yn waeth" os na fyddai Llafur yn arwain y llywodraeth ym Mae Caerdydd, meddai.

Er mai'r blaid Lafur sy'n arwain Llywodraeth Cymru, mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams, yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol.