Nawdd ysgolion '£500 yn is pob disgybl' dros 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd gwariant y pen ar ddisgyblion yng Nghymru wedi gostwng 9% dros ddegawd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae economegydd addysg blaenllaw wedi amcangyfrif toriad o £500 ar wariant blynyddol y pen rhwng 2009/10 a 2020/21, petai'r llywodraeth yn glynu at gynlluniau gwario presennol.

Fe fyddai hynny'n golygu bod gwario ar ysgolion wedi dychwelyd i'r lefelau oedd yn bodoli 14 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod agenda llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriadau sylweddol i'w chyllideb.

Cafodd yr ymchwil, gan yr economegydd addysg Luke Sibieta, ei gyflwyno i ymchwiliad gan bwyllgor addysg y Cynulliad.

Mae'n nodi bod gostyngiad o 5% wedi ei weld mewn gwariant yn y cyfnod hyd at 2017/18, oedd yn llai na'r hyn yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ond yn fwy na'r Alban.

Roedd hynny'n bennaf oherwydd bod niferoedd disgyblion wedi aros yn sefydlog yng Nghymru a'r Alban, tra eu bod wedi cynyddu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Erbyn 2020/21, mae'n amcangyfrif y bydd gwariant, ym mhrisiau heddiw, yn oddeutu £5,600 i bob disgybl - sy'n debyg i'r ffigwr yn 2006/07.

Disgrifiad o’r llun,

Yr her i ysgolion fydd sicrhau safonau uwch i ddisgyblion wrth i gyllidebau leihau, meddai Luke Sibieta

Yn ystod tymor y Cynulliad yma, mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i wario £100m yn ychwanegol i wella safonau ysgolion.

Ond mae Mr Sibieta yn dweud nad yw hyn yn ddigon i osgoi gostyngiad mewn termau real.

"Yr her gyffredinol sy'n wynebu'r rhai sy'n llunio polisïau dros y blynyddoedd nesaf fydd sicrhau safonau uwch mewn ysgolion wrth i gyllidebau ddirywio," meddai.

Ychwanegodd bod "hynny hefyd ar ôl cyfnod o ddirywiad ychwanegol mewn cyllidebau dros y 10 mlynedd diwethaf".

'Dim sicrwydd' am gyllidebau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod polisïau Llywodraeth y DU wedi ei tharo'n ariannol.

"Yn ogystal does dim sicrwydd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Prydain am ein cyllideb y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon", meddai.

"Er mwyn parhau i godi safonau, rydym yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar ein hysgolion a'n hathrawon.

"Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi'n ddiweddar y buddsoddiad unigol mwyaf i athrawon ers datganoli - sef pecyn dysgu proffesiynol gwerth £24m i gefnogi'r cwricwlwm newydd, gan roi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion."