Dedfryd 10 mlynedd i bêl-droediwr am yrru at bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Lee TaylorFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae chwaraewr pêl-droed wnaeth ddefnyddio ei gar fel "arf" yn dilyn ffrae mewn gêm ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar.

Fe wnaeth Lee Taylor, 36 o Bort Talbot, , dolen allanol, ac fe gafwyd yn euog o yrru'n beryglus ac 11 cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol.

Clywodd yr achos yn ei erbyn bod plant mor ifanc â 14 oed wedi eu taro yn y digwyddiad yng Nghorneli ym mis Ebrill 2018.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod Taylor yn "risg uchel o beryglu'r cyhoedd".

'Amddiffyn y cyhoedd'

Roedd Taylor wedi bod yn chwarae dros dîm Margam yn erbyn Corneli ar 19 Ebrill 2018.

Ddydd Gwener clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Taylor wedi bod yn ceisio trefnu bod dau lanc yn ymladd ar ôl y gêm, a'i fod wedi bygwth pobl ifanc eraill rhag ymyrryd.

Clywodd y llys bod Taylor wedi "colli ei dymer" pan ddechreuodd rhai o'r grŵp ei sarhau, gan benderfynu defnyddio ei gar er mwyn dial.

Cafodd 11 o bobl ifanc eu hanafu yn y digwyddiad, gyda rhai wedi eu "taro fel sgitls" gan ei gar BMW.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tîm Lee Taylor wedi colli o 5-0 yn erbyn clwb Corneli ar y prynhawn dan sylw

Hefyd clywodd y llys bod Taylor wedi mynd at y grŵp eto ar ôl eu taro, gan wthio ei fawd i mewn i lygad un bachgen.

Clywodd y llys bod Taylor wedi ymosod ar y grŵp pan oedd ar drwydded am drosedd arall, a dywedodd y barnwr ei fod yn rhoi dedfryd estynedig "er mwyn amddiffyn y cyheodd".

Dywedodd y barnwr bod Taylor wedi defnyddio "trais disynnwyr" ac nad oedd ganddo "unrhyw empathi".

Cafodd ddedfryd saith mlynedd am geisio achosi niwed corfforol difrifol, a 18 mis am yrru'n beryglus - fydd yn cydredeg.

Cafodd ddedfryd ychwanegol o dair blynedd fel rhan o drwydded estynedig.