Pêl-droediwr yn euog o ddefnyddio'i gar fel arf

  • Cyhoeddwyd
Cae pêl-droed CornellyFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod yr ymosodiad honedig wedi digwydd o flaen 'llond maes parcio o dystion'

Mae pêl-droediwr wedi ei gael yn euog o ddefnyddio'i gar fel "arf" a tharo criw o bobl ifanc "fel sgitls" ar ôl i'w dîm golli gêm oddi cartref.

Roedd Lee Taylor, 36, wedi gyrru ei gar BMW at 11 o gefnogwyr ifanc y tîm cartref - rhai mor ifanc â 14 oed - wedi i'w dîm, Margam golli o 5-0 yn erbyn Cornelly United yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr fis Ebrill diwethaf.

Roedd wedi pledio'n ddieuog i yrru'n beryglus ac i 11 o gyhuddiadau o geisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.

Cafwyd Taylor yn euog o'r holl gyhuddiadau wedi i'r rheithgor ystyried eu dyfarniad am ychydig dros bum awr, a bydd yn cael ei ddedfrydu rhywdro ym mis Ebrill.

Dywedodd Christopher Rees ar ran yr erlyniad fod Taylor "wedi mynd fewn i'w gar er mwyn gyrru at y bobl ifanc oherwydd ei fod wedi colli ei dymer."

Cafodd rhai o'r bobl ifanc eu taflu i'r awyr ar ôl cael eu taro ac mae'r llys wedi clywed eu bod yn ffodus ond i gael mân anafiadau.

Roedd Taylor wedi dweud wrth y rheithgor ei fod yn ofni bod cefnogwyr oedd wedi ei ddilyn i'w gar am wneud niwed iddo a'i fod heb sylweddoli, tan i'r heddlu ei arestio, ei fod wedi taro nifer ohonyn nhw wrth ddianc.

Honnodd nad oedd wedi clywed sgrechiadau'r cefnogwyr dros sŵn cerddoriaeth uchel yn y car.

'Digwyddiad dychrynllyd'

Dangosodd tystiolaeth fideo bod Taylor wedi gadael ei gar ac wedi parhau i ymosod ar rai o ffrindiau'r grŵp oedd wedi ei herio.

Ychwanegodd Mr Rees: "Roedd yn ddigwyddiad dychrynllyd... y diffynnydd yn defnyddio ei gerbyd fel arf sy'n pwyso tunnell.

"Roedd yr ymosodiad ddim yn gymesur o gwbl i'r nonsens iard chwarae oedd wedi digwydd o flaen llaw."

Clywodd y llys bod Taylor wedi ei gyhuddo o 24 trosedd yn y gorffennol gan gynnwys achosi difrod troseddol, cymryd cerbyd heb ganiatâd ac ymosod cyffredin.