Gareth Anscombe i adael y Gleision i ymuno â'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd
AnscombeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Anscombe wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru

Bydd maswr Cymru, Gareth Anscombe, yn gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor i ymuno gyda'r Gweilch.

Roedd Anscombe, 27, wedi cael cynnig cytundeb newydd ond mae BBC Cymru ar ddeall ei fod wedi dweud wrth reolwyr ei fod yn dymuno gadael.

Ymunodd gyda'r Gleision yn 2014 ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru, ac mae wedi sgorio 597 o bwyntiau mewn 76 gêm.

Roedd y maswr yn ddewis cyntaf i dîm Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, eu bod wedi pwyso ar Anscombe i gadarnhau ei gynlluniau.

Mae system fandio newydd Undeb Rygbi Cymru, sy'n cymryd lle cytundebau deuol, yn pennu cyflogau chwaraewyr yn ôl categorïau.

Ers symud i Gymru o Seland Newydd yn 2014 mae Anscombe wedi chwarae i'r Gleision ar gytundeb deuol, ond apeliodd yn erbyn ei fand cyflog dan y system newydd. Cafodd yr apêl ei wrthod.

Y gred yw bod clybiau o Loegr wedi dangos diddordeb mewn arwyddo Anscombe, ond byddai symud o Gymru yn golygu na fyddai Anscombe wedi gallu chwarae dros y tîm rhyngwladol gan nad yw wedi ennill 60 o gapiau.