Deunydd adeiladu i daclo problem sbwriel plastig

  • Cyhoeddwyd
ecobricks

Os ydy'ch bin yn gorlifo â deunydd lapio bwyd neu fagiau plastig, beth am ddefnyddio'r gwastraff yna i wneud wal... neu stôl?

Hen boteli plastig wedi'u llenwi'n llwyr gyda phlastig meddal na ellir ei ailgylchu yw 'Ecobricks'.

Nawr mae grŵp o 'eco-fricwyr' yn bwriadu creu gwaith celf mawr - y cyntaf o'i fath yn y byd.

"O'n i gyda diddordeb mewn sut allen ni defnyddio 'ecobricks' mewn byd adeiladu a dylunio," meddai Helen Flynn, pensaer ac aelod o'r grŵp Ecobricks Abertawe.

"Y syniad tu ôl yr ecobrick yw defnyddio'r plastig y'n ni'n casglu yn ein cartrefi na allai gael ei ailgylchu a defnyddio potel diod, a gosod y plastig meddal yn y botel i greu uned adeiladu," meddai.

"Mae'r botel yn gorfod cyrraedd pwysau o 660 gram. Mae'n waith eitha' caled ond mae'n deimlad da pryd chi wedi gorffen yr uned ac mae bric gyda chi."

Disgrifiad o’r llun,

Fel pensaer mae gan Helen Flynn ddiddordeb mawr mewn defnyddio 'ecobricks'

Sefydlodd Phoebe Dawson Ecobricks Abertawe ar ôl gweld llun ar y we.

"Gallwch chi lynu poteli gyda'i gilydd i wneud modiwlau ac yna eu hadeiladu gyda'i gilydd i wneud stoliau ar gyfer y tu mewn neu eu hadeiladu gyda chob i wneud dodrefn ar gyfer y tu allan," meddai.

"Y peth pwysicaf am 'ecobricio' yw codi ymwybyddiaeth o faint o blastig sy'n cael ei ddefnyddio.

"Rwy'n credu y dylai pawb wneud o leiaf un 'ecobrick' oherwydd mae trin yr holl blastig yna'n gwneud i chi sylweddoli faint yr ydych yn ei ddefnyddio.

"Mae'n hawdd anghofio pan mae'r plastig yn cael ei daflu yn y bin, ond pan fyddwch chi'n ei olchi ac yn ei sychu a'i dorri i fyny, mae'n agor eich llygaid i ba mor fawr yw'r broblem."

Ysgolion yn cymryd rhan

Mae'r grŵp yn Abertawe bellach yn gweithio ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y ddinas i gynnal gweithdai cyhoeddus ac i greu'r gwaith celf mawr cyntaf yn y Deyrnas Unedig wedi ei wneud o boteli plastig wedi'u llenwi.

Dywedodd Leisa Williams, swyddog addysg yr Amgueddfa, fod y gymuned ehangach yn cael ei hannog i gymryd rhan yn y prosiect, fydd yn cael ei ddadorchuddio yn yr haf.

"Mae'r grŵp wedi bod yn cynnal gweithdai i bobl ddysgu mwy am ecobriciau ac i gymryd rhan, hyd yn oed os mai dim ond gadael plastig a photeli maen nhw'n ei wneud," meddai.

"Mae ysgolion lleol yn cymryd rhan hefyd. Erbyn yr Haf, fydd ton anferth wedi'i adeiladu gyda'r holl ecobriciau y mae'r gymuned wedi'u gwneud yn disgyn o wal yr amgueddfa i'r ardd."

Disgrifiad o’r llun,

Leisa Williams yw Swyddog Addysg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe

Mae Lizzie Wynn, artist a hyfforddwr ecobrics o Landecwyn yng Ngwynedd, wedi bod yn defnyddio poteli plastig wedi'u llenwi yn ei gwaith dros y blynyddoedd diwethaf.

Y llynedd adeiladodd adeilad bach allan o ecobriciau ac mae'n gobeithio y gellir eu defnyddio mewn adeiladwaith cyffredinol yn y dyfodol.

"Mae pobl yn adeiladu gyda nhw yn llwyddiannus iawn mewn gwledydd eraill," meddai. "Mae pobl yn teimlo'n gyffrous iawn am ecobriciau.

"Dydyn nhw ddim yn hawdd i'w gwneud ac mae'n cymryd ymroddiad ond mae pobl wir yn deall y cysyniad."

O fis nesaf, bydd Lizzie yn dechrau dysgu cyrsiau 'ecobricio' yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.

Ychwanegodd: "Dyma'r dechrau. Y bwriad yw gwneud ymchwil pellach ond hefyd sicrhau fod pobl yn dod i arfer â'u gweld fel deunydd adeiladu."