Carchardai: Defnyddio swyddogion terfysg dros 50 o weithiau
- Cyhoeddwyd

Mae dros 1,700 o droseddwyr yng Ngharchar y Parc
Cafodd tîm o swyddogion elît sy'n arbenigo mewn ymdrin â therfysg mewn carchardai eu defnyddio dros 50 o weithiau yng Nghymru'r llynedd.
Daw'r ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, a oedd yn dangos bod y tîm wedi ymateb i:
- 30 o ddigwyddiadau yng Ngharchar y Parc, Pen-y-Bont; 
- 16 yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam; 
- 5 yng Nghaerdydd 
Carchar Abertawe oedd yr unig leoliad oedd heb wneud defnydd o'r swyddogion terfysg.
Roedd Cymdeithas y Swyddogion Carchardai yn beio diffyg staff, cynnydd mewn trais, problemau cyffuriau, mynediad i ffonau symudol a gorlenwi.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y rhan fwyaf o'r galwadau allan ar gyfer digwyddiadau di-drais.
Roedd y rhan fwyaf o'r galwadau allan yn 2018 yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys carcharorion yn dringo ar doeau neu rwydi diogelwch ac roedd mwy na 30 o sefyllfaoedd gwystlon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
  
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
 