Sut oedd y Cymry'n dathlu'r Pasg ers talwm?
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n Basg ac yn unol â'r traddodiad mi fydd wyau siocled yn addurno silffoedd tai ledled Cymru.
Ond un traddodiad yn unig yw hwnnw ymysg llawer roedd y Cymry'n eu dathlu adeg y Pasg ers talwm.
Gŵyl Gristnogol
Traddodiadau sy'n adlewyrchu'r ffaith mai gŵyl Gristnogol yw cyfnod y Pasg yw'r rhan fwyaf ohonynt.
Bu'n draddodiad ar Ddydd Gwener y Groglith i hongian brwynen ar wal y tŷ a cherdded i'r eglwys yn droednoeth er mwyn osgoi ymyrryd neu styrbio'r tir.
Dros benwythnos y Pasg wedyn roedd y plant yn creu 'gwely Crist' sef casglu brwyn o'r afon leol a'u plygu i greu delw neu fodel o ddyn. Byddai hwnnw wedyn yn cael ei osod ar groes bren a'i roi i'w orwedd mewn cae.
I ddathlu atgyfodiad Crist, ar fore Llun y Pasg, roedd hi'n arferiad gan rai pobl i ddringo mynydd neu fryn go uchel y noson cynt ac aros yno i weld y wawr yn torri. Byddai rhai hyd yn oed yn dawnsio ac yn gwneud tin dros ben deirgwaith ar doriad y wawr.
Roedd eraill yn cario bwced o ddŵr i'r copa er mwyn adlewyrchu golau'r haul a chael mwy o werth o'r goleuni.
Cefndir Paganaidd
Ond mae i ddathliadau'r Pasg lawer o draddodiadau nad oes ganddynt ddim oll i'w wneud â Christnogaeth.
Daw'r cyfeiriad at gwningod ac wyau lliwgar o draddodiadau paganaidd sy'n cynrychioli bywyd a dechreuad newydd. Mae'r defnydd o wyau wedi ei gysylltu â'r Pasg ers canrifoedd a'u bod yn wreiddiol yn cael eu paentio â lliwiau llachar fel symbol o oleuni'r gwanwyn.
Roedd rasus rhowlio wyau Pasg yn cael eu cynnal a'r wyau yn cael eu rhoi fel anrheg i ffrindiau a theulu. Ganrifoedd yn ôl, mewn tai mawr, roedd gweision a morynion yn derbyn wyau yn anrhegion.
Traddodiad 'yfed bragod'
Un o'r traddodiadau Cymreig difyrraf, a oedd hefyd yn cael ei gynnal mewn rhai llefydd yn Iwerddon yn yr 1700au, oedd 'yfed bragod'. Ar noswyl Llun y Pasg neu ar y dydd Mawrth wedyn byddai merch ifanc yn gwisgo math o goron ar ei phen wedi ei gwneud o glai neu grochenwaith.
Roedd pigau'r goron ar ffurf cwpanau a'r rheiny wedi eu llenwi â bragod, diod wedi ei wneud drwy fragu cwrw gyda mêl neu berlysiau. Rhwng pob 'cwpan' roedd cannwyll. Y gamp oedd i fechgyn lleol yfed y bragod heb iddyn nhw na'r ferch gael eu llosgi gan fflam y gannwyll.
Yn y cyfnod cyn i siopa droi'n weithgaredd hamdden, pryd roedd cael dillad newydd yn achlysur mawr, roedd y Cymry'n cadw eu gwisgoedd newydd tan fore Sul y Pasg a'u gwisgo am y tro cyntaf i fynd i'r eglwys. Ac ar ddydd Iau Cablyd fe fyddai'r merched yn cael gwneud eu gwalltiau a byddai'r dynion yn cael twtio eu mwstash neu farf!
Clapio wyau
Dros y canrifoedd mae'r traddodiadau yma i gyd bron wedi diflannu ond yn ddiweddar, ym Môn, atgyfodwyd un hen draddodiad o'r enw 'clapio wyau'. Mae'n draddodiad sy'n adlewyrchu cyfnod o newyn a chardod yng Nghymru pryd oedd pobl yn mynd ar ofyn eraill am fwyd neu'n byw 'ar y plwy'.
Byddai'r plant yn mynd o amgylch y ffermydd lleol, yn curo ar y drws ac yn ysgwyd 'clapwyr' (teclyn pren yn gwneud sŵn 'clap-clap-clap') ac yn adrodd rhigwm bach tebyg i hwn:
"Clap, clap, gofyn ŵy
Geneth fychan (neu fachgen bychan) ar y plwy"
Gyda lwc byddai'r drws yn agor a'r perchennog yn holi, "A phlant bach pwy ydach chi?". Ar ôl cael yr ateb byddai gŵr neu wraig y tŷ yn rhoi ŵy yr un i'r plant. Ar ôl casglu llond basged fe fyddai'r wyau yn cael eu cludo adref ac yn cael eu gosod yn ôl oed y plant, ar ddresel y cartref.
Byddai nifer fawr o wyau'n cael eu casglu gan rai. Yn ôl Joseph Hughes o Fiwmaris yn 1880, mewn recordiad ohono gan yr Amgueddfa Genedlaethol yn 1959:
"Bydda amball un wedi bod dipyn yn haerllug a wedi bod wrthi'n o galad ar hyd yr wythnos. Fydda ganddo fo chwech ugian. Dwi'n cofio gofyn i frawd fy ngwraig, 'Fuost ti'n clapio Wil?', 'Wel do', medda fo. 'Faint o hwyl ges ti?', 'O ches i mond cant a hannar'."
Gobeithio y byddwch chi yr un mor lwcus eleni! Pasg Hapus!
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl hon yn 2019
Hefyd o ddiddordeb: