Galw ar siopau i beidio ag atal cynllun dychwelyd poteli
- Cyhoeddwyd
Mae elusen amgylcheddol yn apelio ar archfarchnaoedd i roi cefnogaeth lawn i gynllun dychwelyd poteli sy'n destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Mewn llythyr agored at benaethiaid 10 prif archfarchnad y DU, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) yn beirniadu "lobïo y tu ôl i'r llenni" ar ran y diwydiant manwerthu i geisio osgoi cynllun cynhwysfawr fyddai'n talu unigolion am ddychwelyd poteli a chaniau gwag.
Dywed pennaeth cadwraeth yr elusen yng Nghymru, Gill Bell bod angen cynllun o'r fath i newid ymddygiad pobl a lleihau effeithiau niweidiol gwastraff ar foroedd a bywyd gwyllt y byd.
Mae Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan (DEFRA) yn cynnal ymgynghoriad ar ran Llywodraethau Cymru a'r DU tan 13 Mai.
Yn ôl yr elusen, Cymru yw'r drydedd wlad orau drwy'r byd o ran lefelau ailgylchu, ond mae angen mynd gam ymhellach i greu economi cylchol sy'n ailddefnyddio popeth posib yn hytrach na'i daflu.
Dan y cynllun dan sylw byddai pobl yn talu blaendal wrth brynu caniau a photeli, ac yn cael yr arian yn ôl wrth eu dychwelyd i'r siop yn wag.
Mewn gwledydd yn Ewrop lle mae systemau tebyg mewn grym, mae dros 90% o gynhwyswyr diod yn cael eu hailgylchu, o'i gymharu â 57% yn y DU.
"Rydym yn credu y byddai rhoi gwerth ar eitemau fel poteli a chaniau gwydr a phlastig yn arwain at newid ymddygiad," meddai Ms Bell.
"Mae angen cynllun dychwelyd blaendal yng Nghymru a fyddai'n cynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau sbwriel ar draethau a helpu cyrraedd y nod o ran lles y genedl trwy greu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel ryngwladol."
Osgoi cydymffurfio
Mae MCS yn pwyso am un system ddi-elw ar draws y DU a fyddai'n rhoi arian am ddychwelyd pob math o gynhwyswyr, beth bynnag y maint neu'r deunydd.
Mae yna alw gan rai o fewn y diwydiant manwerthu i gynnwys poteli a chynhwyswyr bach yn unig, ond mae'r elusen yn dadlau nad ydy'r cynllun hwnnw wedi cyrraedd y nod mewn gwledydd eraill.
Mae'n dweud bod cwmnïau wedi osgoi cydymffurfio yn y gwledydd hynny trwy newid maint neu ddeunydd cynhwyswyr.
Yn y llythyr agoroed mae prif weithredwr MCS, Sandy Luk yn dweud bod yna arwyddion fod yna ymdrechion gan rai cwmnïau yn y DU i newid neu ohirio cyflwyno cynllun cynhwysfawr yma.
"Mae'n ofidus iawn bod rhai o fewn diwydiant yn y DU, er eu budd eu hunain, yn mynd ati i greu gymaint o osgusodion â phosib i wrthwynebu cynllun a fyddai'n dileu ac ailgylchu'r niferoedd mwyaf o gynghwyswyr," meddai.
"Ni ddylid caniatáu i lobïo y tu ôl i'r llenni atal cyflwyniad y cynllun mwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr."
Mae'r llythyr wedi ei gyfeirio at archfarchnadoedd Sainsbury's, Tesco, Aldi, Morrisons, Lidl, Co-op, Asda, Marks & Spencer, Waitrose ac Iceland.
Mae'r elusen yn annog y cyhoedd i ymateb i'r ymgynghoriad cyn 13 Mai trwy'r ymgyrch #BottlesforChange.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried yr holl ymatebion a chanlyniad gwaith asesu pellach ynghylch effaith cynllyn cynhwysfawr cyn dod i benderfyniad.
Mae'r Alban eisoes wedi ymgynghori ar y posibilrwydd ac mae MCS yn hyderus bod hi'n debygol y bydd cynllun cynhwysfawr yn cael ei fabwysiadu yn fanno.
Dywed Gill Bell bod angen i Lywodraeth Cymru "fod yn eofn" a chefnogi'r cynllun mwyaf uchelgeisiol posib - cam a fyddai nid yn unig yn lleihau maint y sbwriel sy'n cyrraedd y moroedd ond yn arwain hefyd at lai o sbwriel mewn mannau cyhoeddus a gostyniad yng nghost glanhau'r strydoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2017