Y Bencampwriaeth: Abertawe 4-3 Rotherham

  • Cyhoeddwyd
Ollie McBurnieFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe wedi llwyddo i frwydro 'nôl i drechu Rotherham ar brynhawn hynod gyffrous yn Stadiwm Liberty.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi 10 munud o chwarae wrth i Michael Ihiekwe benio croesiad y Cymro, Will Vaulks i gefn y rhwyd o ganol y cwrt cosbi.

Fe wnaeth Abertawe ymateb yn dda gyda Daniel James, Connor Roberts a Mike Van der Hoorn yn methu cyfleoedd cyn i Ollie McBurnie ddod a'r Elyrch yn gyfartal wedi 36 munud.

Yn dilyn cic gornel fe gafodd Matt Grimes ddigon o amser i ganfod McBurnie - a gododd yn uwch nac amddiffynwyr Rotherham er mwyn penio'r bêl i gornel uchaf y rhwyd.

Dau funud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr 'nôl ar y blaen diolch i ergyd gywir Matt Crooks.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Barrie Mckay yn dathlu dod ag Abertawe yn gyfartal

Fe ddechreuodd Abertawe'r ail hanner yn dda, ac yn dilyn gwaith ardderchog James lawer yr asgell chwith, llwyddodd Barrie Mckay i unioni'r sgôr gyda pheniad i gornel bellaf y rhwyd.

Aeth Abertawe ar y blaen am y tro cyntaf diolch i ergyd ddadleuol George Byers gydag ugain munud yn weddill.

Ychwanegodd McBurnie bedwaredd i'r tîm cartref wrth iddo grymanu'r bêl heibio'r golwr o ochr chwith y cwrt cosbi.

Fe wnaeth gôl hwyr gan Vaulks roi llygedyn o obaith i Rotherham ond fe lwyddodd y tîm cartref i ddal 'mlaen i ennill y triphwynt.

Golygai'r fuddugoliaeth bod Abertawe yn codi i'r unfed safle ar ddeg yn y tabl.