Apêl i helwyr ar ôl i ddyn, 74, gael ei saethu â bwa croes

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Gerald Corrigan, 74, yn dweud eu bod nhw'n "parhau'n obeithiol" am ei gyflwr

Mae dyn oedrannus yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei saethu â bwa croes ar gyrion Caergybi.

Fe dderbyniodd Gerald Corrigan anafiadau all beryglu bywyd yn y digwyddiad tu allan i'w gartref yn oriau mân fore Gwener.

Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy'n ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd.

Oherwydd natur ei anafiadau, dywedodd yr heddlu fod Mr Corrigan, 74, bellach wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke-on-Trent.

Dywedodd ei deulu eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd" yma.

Y teulu'n 'obeithiol'

"Allwn ni ddim meddwl am unrhyw un fyddai eisiau anafu ein tad a'n partner annwyl," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth o gwbl am yr hyn sydd wedi digwydd, waeth pa mor fach, dywedwch wrth yr heddlu.

"Hoffem dalu teyrnged i'r gwasanaeth ambiwlans a'r staff meddygol am y gwaith anhygoel maen nhw wedi'i wneud.

"Rydym yn parhau'n obeithiol ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd yma."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod Gerald Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tîm fforensig yn archwilio tu allan i'r tŷ ddydd Sadwrn

'Anarferol iawn'

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i'w gartref ger y gyffordd rhwng Lon Porthdafarch a Ffordd Plas.

Ar ôl ymchwilio'r anafiadau fe ddaeth staff meddygol i'r casgliad bod yr anafiadau yn gyson gyda rhai o ymosodiad â bwa croes.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney fod y digwyddiad yn "anarferol iawn" ar gyfer yr ardal a'u bod nhw'n benderfynol o ganfod y sawl sy'n gyfrifol mor fuan â phosib.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.