Heddlu'n dal i obeithio datrys hen achos o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn dweud eu bod nhw'n dal yn gobeithio datrys llofruddiaeth a ddigwyddodd 60 mlynedd yn ôl i'r mis hwn.
Cafodd Carol Ann Stephens ei herwgipio o ardal Cathays yng Nghaerdydd yn Ebrill 1959 - cafodd ei chorff ei ddarganfod bythefnos wedyn yn Sir Gâr.
Er gwaethaf un o'r ymchwiliadau mwyaf yng Nghymru, does neb wedi mynd o flaen eu gwell am farwolaeth y ferch chwech oed.
Ond mae swyddogion yn dweud fod yr achos yn parhau'n weithredol ac maen nhw'n gobeithio cael atebion i deulu Carol.
Y chwilio yn ofer
Fe sbardunodd diflaniad y ferch fach ar 7 Ebrill 1959 un o'r ymgyrchoedd heddlu mwyaf yng Nghymru.
Dros y dyddiau nesaf, cafodd miloedd o geir eu stopio yng Nghaerdydd, a bu'r heddlu'n gwylio porthladdoedd i weld a oedd Carol wedi'i chymryd allan o'r wlad.
Roedd hyd yn oed trafodaeth am ddraenio Llyn Parc y Rhath fel rhan o'r chwilio.
Ond bythefnos yn union ar ôl i Carol ddiflannu - ar 21 Ebrill - cafodd ei chorff ei ganfod mewn ffos ger pentref Horeb, i'r gogledd o Lanelli.
Roedd hi wedi cael ei mygu a'i dympio yn y dŵr.
Er gwaethaf y diddordeb yn yr achos, ychydig iawn o wybodaeth oedd - ac sydd - gan yr heddlu.
Roedd Carol wedi dweud wrth ei ffrindiau bod ganddi "ewythr newydd" a oedd wedi bod yn mynd â hi i yrru, ac roedd hi wedi cael ei gweld yn siarad â dyn mewn car ar y diwrnod y diflannodd.
Ond ar wahân i hynny, roedd gan yr heddlu lawer o gwestiynau i'w hateb.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis, sy'n gweithio yn nhîm Adolygu Troseddau Mawr Heddlu De Cymru, ei fod yn dal i obeithio bod modd datrys y drosedd.
"Efallai na fyddwn ni erioed mewn sefyllfa i erlyn rhywun am yr achos hwn," meddai, "ond roedd yr effaith ar y gymuned yn Cathays, y teulu a ffrindiau - mae rhai ohonyn nhw'n dal yn fyw - a Horeb a Llanelli yn gryf iawn a byddai pobl yn dal i hoffi atebion.
"Gallaf ddweud wrthych fod cwmwl tywyll yn dal i fod yn hongian dros rai o'r cymunedau hynny.
"Mae treigl amser yn rhwystr enfawr. Lle mae tystion yn dal yn fyw, mae cofio digwyddiadau yn anodd," meddai.
'Amser da i apelio'
Bu farw mam Carol, Mavis, yn 2002, heb wybod pwy lofruddiodd ei merch.
Ond mae'r Ditectif Arolygydd Lewis yn gobeithio - 60 mlynedd ers ei llofruddiaeth - bod rhywun am ddod ymlaen â gwybodaeth o'r newydd.
"Mae'n amser da i mi apelio at gymunedau Caerdydd a Horeb, a chymunedau ehangach de Cymru - os oes gan unrhyw un wybodaeth, mae gennym ddiddordeb o hyd, "meddai.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaeth ffonio 101 neu 0800 555 111.