Rhybudd telynores am effaith toriadau ar gerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Catrin Finch yn sgwrsio gyda Garry Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Finch yn poeni am ddiffyg cerddorion ac offerynwyr yn y dyfodol oherwydd toriadau i'r gwasanaeth dysgu cerddoriaeth peripatetig

Mae'r delynores, Catrin Finch, yn poeni y bydd prinder o gerddorion yn y dyfodol oherwydd toriadau ariannol gan gynghorau.

Mewn cyfweliad gyda Garry Owen ar gyfer y gyfres Meistri ar Radio Cymru, mae'r delynores fyd-enwog hefyd yn gweld technoleg a'r gwefannau cymdeithasol fel bygythiad i ddatblygiad cerddorion.

"Mi fydd 'na broblem, os mae pethe'n mynd ymlaen fel maen nhw, fydd 'na ddim digon o gerddorion yn y dyfodol, yn enwedig offerynwyr, achos hwnna 'di'r peth ola' mae pobl yn dewis i ei wneud, chwarae offeryn," meddai, mewn ymateb i gwestiwn am effaith toriadau ar y gwasanaeth dysgu cerddoriaeth peripatetig.

"Dwi'n gweld o fel rhan o'n cyfrifoldeb ni fel cerddorion i wneud yn siŵr fod 'na bobl ifanc yn dechrau, a rhoi nôl beth wnaethon ni gymryd pan oedden ni'n blant.

"Nes i pan o'n i'n blentyn, yn sicr, cael lot fawr o gymorth gan yr ysgol ac athrawon, nid yn unig yn gerddorol ond ym mhob pwnc."

Cyfryngau cymdeithasol

A hithau'n fam i ddwy ferch, mae hi'n ymwybodol iawn o elfennau fel y cyfryngau cymdeithasol sy'n cystadlu am eu sylw drwy'r adeg.

"Ar hyn o bryd dani jyst yn gorfod trio cwffio a helpu plant a cherddorion ifanc. Gen i blant ifanc yn y tŷ a dwi'n gweld be di'r problemau... Maen nhw gyd efo ffôn symudol a mae bywyd ar y we, mae social media, mae'n anodd cael plant fi i ymarfer.

"Be dwi'n trio dweud ydy dim jyst bod 'na ddiffyg cyfleon am gerddoriaeth offerynnol i blant falle, mae 'na lot o issues social yn gyffredinol ym mywydau plant y dyddiau yma a does 'na ddim un ateb iddo.

"Mae plant y dyddiau yma efo gymaint o stimulation ac mae cerddoriaeth yn mynd yn y lŵp yna - mae gen ti aps ar dy ffôn lle mae plentyn tair oed yn gallu creu trac a pwshio cwpl o fotymau a mae gen ti gân efo'r band i gyd...

"Wedyn ti'n trio eistedd nhw lawr a deud 'c'mon rhaid iti ddysgu nawr am C major cords' a maen nhw'n dweud 'allai wneud hwnna ar y cyfrifiadur mam'."

Mae'r cerddor hefyd yn trafod cyfnod anodd yn ei bywyd yn y blynyddoedd diweddar, oedd yn cynnwys cael triniaeth am ganser y fron, gwahanu oddi wrth ei gŵr, Hywel Wigley, a dechrau perthynas gyda'i phartner newydd, Natalie.

Cliciwch yma i glywed y cyfweliad cyfan.