Galw am gymorth i blant sy'n cael trafferth mynd i'r tŷ bach
- Cyhoeddwyd
Does dim digon o gefnogaeth i deuluoedd plant hŷn yng Nghymru sy'n cael trafferthion mynd i'r tŷ bach, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae un o bob 10 plentyn a pherson ifanc yn byw gyda phroblemau'n ymwneud â gwlychu'r gwely, damweiniau yn ystod y dydd a rhwymedd.
Heb ei thrin, gall y sefyllfa arwain at broblemau corfforol, cymdeithasol a seicolegol, sy'n ddychrynllyd i bobl ifanc yn ôl un fam.
Ond mae ymchwil yn awgrymu mai Cymru sydd wedi bod â'r ddarpariaeth feddygol wanaf ym Mhrydain, ac mae ymgyrchwyr yn galw am "welliant radical".
'Ai fi yw'r unig un?'
Mae Bethan, nid ei henw iawn, yn ei blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd ac yn methu rheoli ei phledren.
"Fi angen mynd i'r tŷ bach loads. Os fi yn yr ysgol, fi angen mynd o'r dosbarth yn aml ac mae pawb yn gofyn ble fi'n mynd - mae'n rhywbeth sensitif iawn i fi," meddai.
Dim ond un o'i ffrindiau sy'n gwybod am ei chyflwr.
"Yn y nos fi'n teimlo'n unig. Ni wedi trio mynd at CAMHS [gwasanaethau iechyd meddwl] ond dydyn nhw ddim yn gweithio oherwydd 'sa'i 'da perthynas agos gyda nhw," meddai.
"Does neb yn meddwl am ba mor anodd yw'r broblem a fi'n meddwl 'fi yw'r unig un sydd gyda anxiety ac yn poeni trwy'r dydd, pob dydd'."
'Torcalonnus'
Yn ôl ei mam, mae'r sefyllfa'n gallu bod yn anodd i'r teulu cyfan.
"Mae sleepovers a mynd ar wyliau yn anodd. Ni'n tueddu i ddelio gyda fe fel teulu, ond mae'n gallu bod yn stressful," meddai.
"Mae hi wedi cael cyfnodau lle mae hi wedi gwrthod mynd i'r ysgol, gadael y tŷ, mynd i unrhyw le achos mae hi'n trio cuddio.
"Mae hynny'n dorcalonnus. Mae'r anxiety yn gallu bod yn wael, lle mae hi'n crippled ganddo."
Mae'r canllawiau gan gorff NICE yn awgrymu y dylai plant a phobl ifanc hyd at 19 oed sydd â phroblemau gyda'u pledren neu eu coluddyn gael mynediad at wasanaeth penodol o dan arweiniad nyrs arbenigol yn y gymuned.
Yn 2017, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan y grŵp lobio meddygol, Paediatric Continence Forum, mai un bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru oedd yn cynnig y gwasanaeth priodol - 14%.
Roedd hyn yn cymharu â 41% ar draws Prydain.
Mae ymchwil mwy diweddar gan BBC Cymru yn awgrymu bod pethau wedi gwella, gyda thri bwrdd iechyd - Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr - yn dweud eu bod yn cynnig y lefel lawn o ddarpariaeth.
Dywedodd y byrddau eraill eu bod yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy wasanaethau eraill fel nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd ac ymgynghorwyr.
'Dioddef mewn tawelwch'
Ond yn ôl Dr Penny Dobson, sylfaenydd a chadeirydd y Paediatric Continence Forum, mae angen gwelliant "radical" o hyd.
"Dwi'n teimlo bod 'na fethiant yng Nghymru o ran y ddarpariaeth i blant sydd â thrafferthion mynd i'r tŷ bach ac felly'n teimlo bod angen gwneud rhywbeth," meddai.
"Dwi'n meddwl bod llawer yn dioddef mewn tawelwch. Mae hon yn broblem gudd sy'n aml yn cael ei 'sgubo o'r neilltu.
"Mae'n faes o iechyd plant sy'n cael ei esgeuluso, ond mae'r effaith ar deuluoedd os nad yw'n cael ei ddatrys yn ddinistriol iawn."
Os nad yw plant yn cael eu hasesu a'u trin, dywedodd Dr Dobson y gallan nhw orfod mynd i uned gofal brys gyda phroblemau coluddyn difrifol neu haint ar yr arennau.
"Mae 'na gysylltiad rhwng trafferthion mynd i'r tŷ bach a phroblemau iechyd meddwl," meddai.
"Gall plant deimlo'n wahanol, mae'n effeithio ar eu hunan-barch, dydyn ddim yn medru mynd ar weithgareddau cymdeithasol ac mae'n effeithio arnyn nhw yn yr ysgol.
"Mae bwlian hefyd yn broblem i blant sy'n cael trafferth mynd i'r tŷ bach."
Cyflwr 'erchyll'
Ychwanegodd mam Bethan: "Mae hwn i bobl ifanc yn erchyll - does dim byd doniol amdano fe.
"Mae'n cael effaith ar safon eu bywydau ac mae angen cymorth arnyn nhw.
"Mae'n bwysig i gofio bod y plant yn mynd i'r clinig unwaith bob cwpl o fisoedd a dyna'r unig gyfle mae'r plant yn ei gael i offloadio, crio, chwerthin, bondio gyda'r health professional yna.
"Mae hynny mor bwysig i les y plentyn, ac mae angen gwasanaeth fel 'na ar draws Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau yn unol â chanllawiau NICE.
"Mae'n hanfodod bod plant a phobl ifanc â thrafferthion dal dŵr yn mynd trwy asesiad cynhwysfawr i adnabod problemau wrth wraidd, a sicrhau bod y cyflyrau hyn yn cael eu canfod a'u trin gan y clinigwr priodol."
Ap i helpu teuluoedd
Mae Powys yn un o'r ardaloedd sydd heb y gefnogaeth angenrheidiol, ond maen nhw'n datblygu ap gyda chwmni Aparito yn Wrecsam i helpu teuluoedd.
Yn ôl Dr Elin Haf Davies o Aparito, gall y dechnoleg helpu mewn sawl ffordd.
"I gleifion sy'n byw 'efo problemau 'efo'r bladder a'r bowel mae'n gallu bod yn fater sensitif iawn ac mae'n gallu bod yn rhywbeth reit embarassing," meddai.
"Felly 'da ni'n gobeithio y bydd yr ap a'r dechnoleg yma'n eu galluogi i rannu symptomau sy'n reit sensitif a chael y wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw heb orfod teimlo gormod o gywilydd.
"Mae hefyd yn rhoi'r ymwybyddiaeth iddyn nhw bod cleifion eraill yn gorfod delio efo'r un problemau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018