Ymchwilio i effaith cyffur PrEP ar achosion heintiau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil yn cael ei gynnal i ddarganfod os ydi defnydd o gyffur sy'n atal HIV yn achosi cynnydd yn nifer yr achosion o heintiau rhyw eraill.
Hyd at fis Chwefror eleni, mae 841 o bobl wedi cael presgripsiwn ar gyfer Proffylacsis Cyn Cyswllt (PrEP) yng Nghymru, ers dechrau'r prosiect i ddarparu'r cyffur ym mis Gorffennaf 2017.
Fel rhan o'r prosiect, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gwaith ymchwil i ddarganfod os ydi'r cyffur yn achosi i ddefnyddwyr ymddwyn yn llai gofalus - ac felly'n cynyddu nifer yr achosion o heintiau rhyw.
Yn ôl yr elusen Terrence Higgins Trust, mae'r rheiny sy'n defnyddio PrEP yn ymweld ag arbenigwyr ac yn cael profion cyson, tra efallai na fydden nhw'n gwneud fel arfer.
I filoedd o bobl fel Chris Hicks o Gaerdydd, mae PrEP wedi tawelu nifer o ofnau ynglŷn â rhyw. Tra nad ydi o'n "ddiogel 100% o'r amser", mae'n dweud y byddai'n hoffi petai'r stigma sydd ynghlwm â'r cyffur yn diflannu.
"Bydd rhai pobol yn cymryd yn ganiataol, os ydych chi'n defnyddio PrEP, eich bod chi'n cael rhyw gyda nifer o bobl, ond nid dyna'r gwirionedd," meddai.
Mae PrEP ar gael ar y GIG yn yr Alban, gyda phrosiect yn cael ei gynnal yma yng Nghymru a threialon gyda miloedd o ddefnyddwyr yn Lloegr.
Mae'r cyffur, sy'n atal HIV yn unig, yn cael ei ystyried fel carreg filltir yn y frwydr yn erbyn HIV.
Ond mae yna waith ymchwil sy'n awgrymu y gallai defnydd ohono arwain at fwy o achosion o heintiau rhyw eraill, fel syffilis a gonorrhoea.
Yn ôl ymchwil gan Brifysgol New South Wales yn Awstralia, roedd dynion heb HIV oedd yn defnyddio PrEP yn fwy tebygol o gael rhyw heb ddiogelwch.
'Bwgan trwy gydol fy mywyd'
Ag yntau wedi tyfu fyny yn y 1980au, mae Mr Hicks yn dweud bod HIV wedi bod yn fwgan trwy gydol ei fywyd a'i fod yn wyliadwrus oherwydd hynny.
"Dw i'n cofio gweld yr hysbyseb [AIDS] yna, gyda cherrig beddi yn disgyn a sut roedd yn beth mawr, dychrynllyd oedd yn lladd llwyth o bobl ac yn cael effaith ar y gymuned LHDT," meddai.
Mae'n dweud bod defnyddio PrEP yn gwneud iddo deimlo'n "llai ofnus" ynglŷn â chael rhyw, ac fel "pawb arall", dydi o ddim yn gwbl ddiogel o hyd.
"Dw i mewn perthynas a dy'n ni ddim yn defnyddio condomau ac mi ydw i'n defnyddio PrEP hefyd, dim ond oherwydd weithiau 'dy ni'n penderfynu agor ein perthynas [i rywun arall].
"Ry' ni o hyd yn dweud ein bod yn defnyddio PrEP."
Yn ôl Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n ymwybodol y gallai rhai grwpiau sy'n ymddwyn yn llai gofalus fod mewn mwy o berygl a'u bod yn "monitro hynny'n agos".
"Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim data pendant sy'n dweud bod yna gynnydd mewn heintiau rhyw ymysg ein defnyddwyr PrEP," meddai.
"Ond yn amlwg mae hynny'n rhywbeth 'dy ni'n cadw llygaid manwl arno."
Mae sgrinio'n dangos o'r 841 o bobl sy'n defnyddio PrEP yng Nghymru, roedd gan 137 gonorrhoea, 112 chlamydia a 25 syffilis. Ond does dim awgrym os ydi'r ffigyrau hyn wedi cynyddu ers dechrau'r gwaith ymchwil.
Mae Dr Shankar yn dweud bod Iechyd Cyhoeddus Cymru'r argymell y dylai'r rheiny sy'n cael rhyw heb ddiogelwch gyda nifer o bartneriaid ddefnyddio mesurau ataliol a chael eu sgrinio'n gyson.
'Cam mawr ymlaen'
Mae'r Terrence Higgins Trust yn un o'r elusennau sydd wedi bod yn ymgyrchu i geisio sicrhau bod PrEP ar gael ym mhob rhan o'r DU.
Dywedodd Ceri Dunstan o'r elusen: "Efallai bod rhai adroddiadau o gynnydd yn nifer yr heintiau rhyw eraill ond y pwynt ydi bod pobol sy'n defnyddio PrEP yn mynd i weld arbenigwyr iechyd rhyw, maen nhw'n ymweld â chlinigau ar gyfer archwiliadau rheolaidd, efallai na fydden nhw'n gwneud fel arall.
"Ry'n ni o hyd wedi bod yn glir iawn fel ymddiriedolaeth mai dim ond atal HIV mae PrEP, dyw e ddim yn atal unrhyw beth arall, ond mae hynny ar ben ei hun yn gam mawr ymlaen."
Yn ôl Ms Dunstan, byddai casglu mwy o wybodaeth ddemograffig am y rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth yng Nghymru yn eu caniatáu i "dargedu negeseuon ychydig yn fwy effeithiol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2017