Cyhoeddi manylion deiseb Galw Nôl
- Cyhoeddwyd
Wedi i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin gadarnhau y bydd deiseb Galw Nôl yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, mae'r manylion wedi'u cyhoeddi.
Yr Aelod Seneddol Chris Davies fydd testun y ddeiseb Galw Nôl yn ei etholaeth wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug.
Cafodd yr AS Ceidwadol ddedfryd yn Llys y Goron Southwark ddydd Mawrth o wasanaeth cymunedol a dirwy o £1,500.
Roedd yr AS, sy'n 51, eisoes wedi pledio'n euog ym mis Mawrth i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Bydd gan etholwyr Brycheiniog a Sir Faesyfed yr hawl i arwyddo'r ddeiseb rhwng 09:00 ar ddydd Iau, 9 Mai tan 17:00 ar ddydd Iau, 20 Mehefin 2019.
Y mannau swyddogol ar gyfer arwyddo'r ddeiseb yw:
Neuadd y Sir, Llandrindod;
Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu;
Llyfrgell Llanandras, Llanandras;
Llyfrgell Ystradgynlais, Ystradgynlais;
Siambr y Cyngor, Y Gelli Gandryll;
Tŷ Clarence Hall, Crucywel.
Bydd y canolfannau ar agor ar yr amseroedd canlynol:
Dydd Llun - 09:00-17:00 (heblaw Gŵyl y Banc y gwanwyn)
Dydd Mawrth - 08:00-17:00
Dydd Mercher - 09:00-20:00
Dydd Iau - 09:00-17:00
Dydd Gwener - 09:00-17:00
Os fydd 10% o'r etholwyr yn arwyddo'r ddeiseb, yna fe fydd isetholiad yn cael ei gynnal i ddewis Aelod Seneddol newydd.
Mae gan bob oedolyn sydd dros 18 oed cyn diwedd y cyfnod arwyddo ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn gymwys i arwyddo'r ddeiseb.
Wedi i'r Llefarydd gyhoeddi'r ddeiseb yn San Steffan, mae'r Swyddog Deiseb wedi cyhoeddi mai'r nifer sydd â'r hawl i arwyddo yw 53,032.
Os fydd 5,303 felly yn arwyddo, fe fydd Chris Davies yn cael ei ddisodli fel AS Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019