Bwncath yn gorffen yn ail yn yr Ŵyl Ban Geltaidd
- Cyhoeddwyd

Roedd Bwncath yn perfformio'r gân 'Fel hyn 'da ni fod'
Mae Cymru wedi gorffen yn ail yng nghystadleuaeth 'y gân ryngwladol orau' yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.
Elidyr Glyn oedd yn cynrychioli Cymru wedi iddo ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2019 'nol ym mis Mawrth.
Roedd Elidyr yn perfformio'r gân 'Fel hyn 'da ni fod' gyda'i fand Bwncath.
Cafodd y gystadleuaeth, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe gwlad Geltaidd, ei chynnal yn Letterkenny, Iwerddon nos Iau.
Iwerddon daeth i'r brig yn y gystadleuaeth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2018