Pro 14: Gleision 23-26 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cadarnhau eu lle yn y gemau ail-gyfle ar gyfer lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi buddugoliaeth o 26-23 yn erbyn y Gleision.
Gorffennodd y Gweilch yn bedwerydd yn Adran A cynghrair y Pro 14 diolch i gic gosb hwyr gan Sam Davies.
Fe sgoriodd Gareth Anscombe 18 pwynt i'r Gleision yn erbyn y tîm y bydd yn ymuno â nhw'r tymor nesaf.
Anscombe sgoriodd cais cynta'r gêm wrth iddo orffen symudiad ardderchog wedi chwarae taclus gan Owen Lane a Lloyd Williams.
Ond fe wnaeth cais gan Cory Allen ychwanegu at giciau cosb Davies i roi'r Gweilch ar y blaen o 16-13 ar hanner amser.
Cafodd mantais y Gweilch ei ymestyn i ddeg pwynt diolch i gais gan y prop Nicky Davies, cyn i Allen dderbyn cerdyn melyn am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol.
Fe fanteisiodd y Gleision ar y penderfyniad hwnnw yn syth, wrth i Josh Turnbull wneud y mwyaf o ddryswch yn amddiffyn y Gweilch.
Roedd cicio Anscombe yn berffaith drwy'r gêm tan iddo fethu'r cyfle i roi Gleision Caerdydd ar y blaen gyda chic gosb ychydig funudau cyn y chwiban olaf.
Fe lwyddodd Davies i sgorio'r gic gosb holl bwysig yn y munud olaf er mwyn selio'r fuddugoliaeth i'r Gweilch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019