Galw am adolygu polisi tai carbon isel yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Ty crwn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tŷ crwn yma yng Nglandŵr ei ganiatáu dan reolau Datblygiad Un Blaned

Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi galw am foratoriwm ar bolisi sy'n caniatáu codi tai newydd carbon isel yng ngefn gwlad Cymru.

Mae polisi Datblygiadau Un Blaned - sy'n unigryw i Gymru - yn caniatáu tai newydd carbon isel gydag ymgeiswyr yn gorfod dangos eu bod yn medru byw, i raddau helaeth, yn hunan-gynhaliol ar y tir o gwmpas yr adeilad.

Ond mae'r cynllun, a gafodd ei lunio yn 2010, yn "wan" ac yn rhy eang i'w fonitro, yn ôl y Cynghorydd Huw George.

Mae hefyd yn dadlau bod y drefn yn annheg i deuluoedd amaethyddol sydd eisiau codi cartrefi ar gyfer eu plant ar eu tir.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Cyngor Sir Penfro â'r opsiwn i reoli Datblygiadau Un Blaned (OPD) trwy gynnwys polisïau o fewn ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Gofynion ceisiadau Datblygiadau Un Blaned

Rhaid i ymgeiswyr geisio cadw at ôl-troed ecolegol o 2.4 hectar y person.

Mae disgwyl iddyn nhw ddefnyddio'r tir i ddarpau incwm, bwyd ac ynni ac i ddelio â gwastraff o'r tir.

Rhaid llunio cynllun rheoli ac adroddiadau blynyddol i ddangos bod ymgeiswyr yn cwrdd â meini prawf.

Dylai 65% o anghenion bwyd holl feddianwyr y safle gael eu tyfu neu'u fagu ar y tir - neu o leiaf 30% ar yr amod bod 35% o'r anghenion hynny'n cael eu diwallu drwy brynu neu gyfnewid gan ddefnyddio'r incwm neu gynnyrch dros ben o gynnyrch arall, fel coed ac ynni bio-mas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Huw George yn feirniadol iawn o effaith y polisi ar y ward mae e'n ei chynrychioli, Maenclochog

Yn Sir Benfro mae 13 o geisiadau wedi eu cyflwyno, gydag wyth yn cael caniatâd cynllunio.

Yn ôl Mr George, mae gormod o'r ceisiadau wedi cael eu cyflwyno yn ei ward - Maenclochog - yn bennaf o gwmpas pentref Llangolman.

"Mae'n bolisi gwan ac eang," meddai.

"Mae e mor agored. Mae modd defnyddio'r polisi i siwtio chi ac mae monitro rhywbeth sydd mor eang yn creu problemau."

'Nid pobl o'r ardal y'n nhw'

"Mae gyda ni bobl leol sydd yn ceisio cael tŷ i'r mab neu'r ferch i ddod gatre i ffermio, ac mae'r system yn Sir Benfro yn dweud does dim digon o arian.

"Ond mae'r OPD yn rhoi caniatâd i unigolion. Nid pobl o'r ardal y'n nhw. Mae yna safleoedd ar y we sydd yn dweud, dewch i Sir Benfro ac fe gewch chi eich OPD, ac fe gewch chi fyw yn y wlad.

"Mae yna annhegwch ofnadwy i bobl leol ac i bobl sydd yn ceisio ffermio, nid yn unig iddyn nhw eu hunain ond i'r genedl.

"Mae yna ormod ohonyn nhw mewn un ardal, a chi'n gorfod gofyn a ydy e'n gynaliadwy fod shwd gymaint yn dod i un ardal.

"Mae yna dir yn mynd ar goll mewn parseli bach, ac ry'n ni yn colli'r gallu i ddarparu bwyd ar gyfer ardal eang."

Disgrifiad,

Fe wariodd Steffan Harris o Dre-lech filoedd o bunnau ar gais aflwyddiannus i godi tŷ newydd ar dir amaethyddol

Yn ôl Jacqui Banks, sy'n codi cartref Un Blaned gyda'i chymar yng Nglandŵr yn Sir Benfro, mae'r polisi wedi rhoi "cyfle ffantastig" iddi fyw yng nghefn gwlad a sefydlu busnes ar y tir.

"Mae'n gyfle i ni wneud prosiect roedden ni am ei wneud, sef creu busnes yn tyfu coed ifanc a planhigion mewn ffordd fforddiadwy," meddai.

"Mae'r polisi yn gofyn i bobl i adeiladu gyda phethau naturiol. 'Da ni wedi defnyddio coed lleol a llechi Cymreig ail-law i'r to. Mae'n ffordd draddodiadol o fyw, ar y tir. "

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r polisi wedi rhoi "cyfle ffantastig", medd Jacqui Banks i hi a'i chymar fyw yng nghefn gwlad Cymru a sefydlu busnes

Ond mae Mr George wedi galw am "foratoriwm" er mwyn adolygu'r polisi.

"Mae eisiau rhoi stop i'r cynlluniau 'ma ar hyn o bryd fel bod Caerdydd yn gallu edrych a dweud fel hyn mae'n gweithio."

Straen ac anniddigrwydd

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd yn feirniadol o'r polisi, gan ddweud ei fod yn rhoi "straen ychwanegol" ar awdurdodau cynllunio o ran amser a chost, ac wrth gynnal monitro parhaol.

Yn ôl yr awdurdod, mae ymgeiswyr yn medru bod yn "gyndyn" i gwrdd â'r gofynion blynyddol o gyflwyno adroddiadau monitro, a gall cynlluniau rheoli droi yn "waith papur diwerth".

Yn ôl y cyngor, gall y polisi hefyd gael "effaith negyddol" a chreu "anniddigrwydd yn y gymuned leol".

Yr ateb, medd Ms Banks, yw i Lywodraeth Cymru roi adnoddau ychwanegol i gynghorau i wneud y gwaith monitro,

Mae hi hefyd wedi dweud fod y polisi "yn rhoi gwaith i'r cyngor lleol" ac "ar gael i unrhywun sydd yn byw yng Nghymru... os maen nhw'n gwneud y pethau sydd eu hangen".

Gan wfftio'r feirniadaeth am y nifer o geisiadau yn ward Maenclochog, dywedodd: "Dwi'n gweld e fel peth ffantastig i gefn gwlad - pobl ifanc yn creu busnesau ar y tir."

'Rhesymegol a chyson'

Mewn ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n bwysig bod ceisiadau'n cael eu trin mewn "ffordd resymegol a chyson" trwy'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

"Cyngor Sir Penfro sy'n gyfrifol am baratoi'r CDLl, a'r polisïau sy'n rhan ohono, ac mae gyda nhw'r opsiwn o gynnwys polisïau i reoli Datblygiadau Un Blaned, os yn teimlo bod hynny'n briodol.

"Rydym yn deall bod y cyngor yn paratoi drafft newydd o'r CDLl cyn diwedd y flwyddyn."