Cyn-arweinydd Cyngor Môn, Phil Fowlie, wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-arweinydd Cyngor Ynys Môn, Phil Fowlie wedi marw yn 58 oed.
Ef oedd yn arwain clymblaid rhwng grŵp annibynnol a Phlaid Cymru o 2008 nes 2009, cyn camu o'r rôl oherwydd salwch a rhoi'r gorau i'w swydd fel cynghorydd yn 2010.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones bod marwolaeth Mr Fowlie yn "golled fawr" i gymunedau cefn gwlad Ynys Môn a'r DU.
Fe ddaeth arweinyddiaeth Mr Fowlie yn ystod cyfnod cythryblus i'r awdurdod, ac fe wnaeth comisiynwyr Llywodraeth Cymru gymryd y cyfrifoldebau o'i redeg yn ddiweddarach.
Bu farw yn dilyn cyfnod o salwch.