'Doedd 'na'm ffraeo, dim ond cytuno...'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bron i 20 mlynedd, mae aelodau gwreiddiol Maharishi wedi dod yn ôl at ei gilydd i ddechrau paratoi at berfformiad arbennig yn yr haf.
Fe gawsant eu hymarfer cyntaf dros y penwythnos ar ôl cytuno i ail-ffurfio ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2019.
A gan fod aelodau'r band, wnaeth gyfarfod tra'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, nawr yn byw mewn gwahanol rannau o Gymru roedd rhaid cyfarfod rhywle yn y canol.
Ar ôl diwrnod cyfan o ymarfer yn Rhydypennau, ger Aberystwyth, mae'n argoeli'n dda ar gyfer y perfformiad ar Lwyfan y Maes yn Llanrwst yn ôl dau aelod o'r band.
Dywedodd Euron Jones, sydd bellach yn athro gitâr: "Aeth hi'n dda iawn i feddwl ein bod ni heb neud dim ers bron iawn i 20 mlynedd, ers y line-up gwreiddiol fod efo'i gilydd.
"Wnaeth Gwil ddechrau gwneud un cân a wedyn dyma pawb yn joinio fewn.
"Roedden ni wedi synnu bod pawb yn cofio'r caneuon cystal ond roedden ni wedi gwneud rhestr o'r caneuon oedden ni'n feddwl ei wneud, felly roedd pawb wedi gwrando ar rheiny adra cyn yr ymarfer.
"Dwi'n gweld Rich (bas) yn reit aml gan bod ni'n byw yn agos ond dwi ddim yn meddwl mod i wedi gweld Rhodri ers dros 10 mlynedd. Roedd hi'n braf cael dal fyny a cofio hen straeon."
Ac yn ôl Rhodri Evans, sy'n chwarae'r allweddellau, ac yn gweithio yn y diwydiant bwyd erbyn hyn:
"Roedd hi bach yn rhyfedd chwarae rhai o'r hen ganeuon - y rhai o'r albwm cyntaf - ond roedd atgofion da ac fe gafo ni bach o laff a tynnu coes fel fyddech chi'n ddisgwyl.
"Ni gyd wedi heneiddio a mynd mwy tew, ac un neu ddau wedi heneiddio fwy na'i gilydd.
"Roedd y cyfan wedi dod at ei gilydd yn weddol dda i feddwl mai dyma'r ymarfer cyntaf ers blynyddoedd. O'n ni'n cofio'r rhai mwyaf syml ond gyda'r caneuon oedd gyda mwy o newidiadau roedd pawb yn meddwl 'beth yffach sy'n digwydd fan yma?'
"Sam y technegydd oedd yn adnabod y caneuon orau ohona ni i gyd, fe oedd yn gwneud y sain ym mhob gig felly mae o wedi gwrando yn fwy astud ar y caneuon na ni gyd felly roedd pawb yn gofyn iddo fe be oedd yn digwydd.
"Mae'n braf cael eu chwarae nhw eto - ac ma'n rhaid trefnu dod at ein gilydd mwy rwan cyn yr Eisteddfod. Edrych 'mlaen."
Bydd Maharishi, wnaeth recordio caneuon fel Tŷ ar y Mynydd a Ware'n Noeth, yn chwarae ar Lwyfan y Maes ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.