'Pop pur' ar lwyfan y Pafiliwn 2019

  • Cyhoeddwyd
DiffiniadFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgan pwy fydd yn perfformio yn y gig ym Mhafiliwn y Maes ar Nos Iau, 8 Awst, ac yn ei ddisgrifio fel "noson o bop pur".

Mae'r bandiau poblogaidd o'r 90au, Diffiniad ac Eden, yn dychwelyd i'r Eisteddfod eleni.

Hefyd yn perfformio, fydd Lleden - sydd yn perfformio fersiynau modern o hen glasuron Cymraeg - felly bydd yna'n sicr ddigon o nostalgia ar y noson. Cerddorfa'r Welsh Pops fydd yn cyfeilio, gyda Huw Stephens yn llywio'r noson unwaith eto.

Eden
Disgrifiad o’r llun,

Eden, a fydd yn dychwelyd i berfformio yn yr Eisteddfod eleni

Yn ôl Ian Cottrell o Diffiniad, bydd hwn yn brofiad go wahanol i'w perfformiad ar Lwyfan y Maes BBC Radio Cymru ar nos Wener Eisteddfod Caerdydd y llynedd. Cyn hynny, doedd y band ddim wedi perfformio gyda'i gilydd ers 2001.

"Roedd y pwysau i gyd arnom ni llynedd o flaen 7,000 o bobl yn y bae, ond y tro yma gyda'r gerddorfa 'da ni jest yn teimlo'n gyffrous."

Sŵn y peiriannau dryms ac allweddellau sydd fel arfer yn cael ei gysylltu gyda Diffiniad, felly beth sy'n apelio am chwarae gyda cherddorfa?

"'Da ni erioed wedi cael cyfle i chwarae efo cerddorfa o'r blaen," meddai. "Y peth dwi'n edrych ymlaen ato fwyaf ydi clywed y gerddorfa yn chwarae'r caneuon dawns a pop.

"'Da ni eisiau creu argraff, cael parti mawr a gwneud rhywbeth gwahanol".

Diffiniad
Disgrifiad o’r llun,

Diffiniad yn codi'r 'to' yn eu perfformiad ar Roal Dahl Plass ym Mae Caerdydd y llynedd

"Fe chwaraeon ni lot efo Eden yn y 90au ac ysgrifennu caneuon ar eu cyfer nhw. 'Da ni gyd o Glwyd felly 'da ni'n ffrindiau da hefyd," meddai.

Dyma'r pedwerydd tro i gig y pafiliwn gael ei gynnal, ac mae wedi datblygu i fod yn un o nosweithiau mwyaf poblogaidd yr Eisteddfod.

"Ar ôl tair blynedd o fandiau gitâr mae'n syniad da cael grwpiau pop," meddai Ian. "Dydi pop ddim wastad yn cael ei ddathlu yn y Gymraeg ond y prawf ydi fod y caneuon wedi para'. Mae rhai o'n caneuon yn 25 oed!"

Y llynedd, sain reggae Geraint Jarman oedd y prif atyniad yn y gig ar lwyfan y Pafiliwn, er mwyn nodi'r Steddfod yn y Ddinas.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan BBC Cymru Fyw

Hefyd o ddiddordeb: