M4: Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniad ym Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Argraff artistFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist: Rhan o'r draffordd newydd, 15 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad am fwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu ffordd newydd ar yr M4 neu beidio ar ddechrau Mehefin.

Cynnig y llywodraeth ydy adeiladu ffordd rhwng Magwyr a Chas-bach, sydd i'r de o Gasnewydd.

Y nod yw lliniaru problemau traffig ar y draffordd i'r gogledd o'r ddinas, yn enwedig yng nghyffiniau twneli Brynglas.

Mae'r penderfyniad ynghylch symud ymlaen gyda'r gwaith yn nwylo Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Mae'r llywodraeth wrthi'n dadansoddi adroddiad ar y ffordd liniaru yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus a ddaeth i ben fis Mawrth y llynedd.

Fe dderbyniodd yr ymchwiliad 335 o wrthwynebiadau ffurfiol, a 192 llythyr o gefnogaeth.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Twneli Brynglas ger Casnewydd yw'r man gwaethaf yng Nghymru ar gyfer tagfeydd

Roedd cannoedd o bobl mewn protest y tu allan i'r Senedd ym mis Rhagfyr yn erbyn adeiladu'r ffordd.

Yn ôl ymgyrchwyr cadwraethol, fe fyddai adeiladu'r ffordd yn dinistrio harddwch naturiol Lefelau Gwent.

'Wythnos gyntaf Mehefin'

Mewn datganiad ddydd Mawrth, fe ddywedodd Mr Drakeford: "Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi bod yn ystyried yn ofalus Adroddiad yr Arolygydd ynghyd â chyngor gan swyddogion ar Brosiect yr M4.

"Rwy'n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch a ddylid gwneud y gorchmynion cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn i'r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin neu beidio.

"Unwaith bydd y penderfyniad wedi'i gadarnhau, fe gyhoeddir llythyr yn amlinellu'n llawn y rhesymau dros y penderfyniad. Darperir dolen i fersiynau electronig o Adroddiad yr Arolygydd, yn y Gymraeg a'r Saesneg, ochr yn ochr â'r llythyr."