Achos cam-drin Y Barri: Heddlu yn ymchwilio i honiadau

  • Cyhoeddwyd
Peter ac Avril GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter ac Avril Griffiths ddedfrydau hir o garchar am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod yn parhau i ymchwilio i honiadau fod swyddogion wedi chwarae rhan mewn achos o gam-drin.

Cafodd Peter ac Avril Griffiths o'r Barri eu carcharu ym mis Hydref 2018 ar ôl i lys eu cael yn euog o gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Roedd y ddau wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw yn yr 1980au a'r 90au yn erbyn merched oedd yn blant ar y pryd.

Yr wythnos hon, mae yna alw am adolygiad o'r achos wedi honiadau bod neb wedi gweithredu ar rai o gwynion cynnar dioddefwyr.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan fod y llu yn ymwybodol o "honiadau bod swyddogion yr heddlu ac eraill wedi bod yn rhan o'r cam-drin".

Ychwanegodd fod yr heddlu'n trin yr honiadau'n "ddifrifol iawn a bydd ymchwiliadau'n parhau er mwyn adnabod pobl eraill a oedd yn gysylltiedig â'r cam-drin".

"Rydym yn mynd ati i ymchwilio i hyn ac rydym am glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am Peter ac Avril Griffiths neu unrhyw unigolyn arall sy'n ymwneud â'u troseddau."

'Mae'n ddrwg gennyf'

Cafodd Peter ac Avril Griffiths eu harestio yn 2000 ond ni chafodd yr un eu herlyn.

Dywedodd Mr Vaughan ei fod yn "ddrwg gennyf ei fod wedi cymryd bron i 20 mlynedd i'r dioddefwyr gael cyfiawnder".

Ychwanegodd fod Heddlu'r De yn "cyfeirio cwynion am y ffordd y cynhaliwyd ein hymchwiliad yn 2000 i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i sicrhau eu bod yn derbyn y lefel uchaf o graffu".