Galwad i edrych eto ar achos cam-drin plant yn Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau am gysylltiad pâr priod o'r Barri â chylch pedoffeil wedi arwain at alwadau am adolygiad o'r achos.
Cafodd Peter ac Avril Griffiths eu carcharu ym mis Hydref 2018 ar ôl i lys eu cael yn euog o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Roedd y ddau wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 90au yn erbyn merched oedd yn blant ar y pryd.
Dywed Nazir Afzal, sydd wedi erlyn gangiau am feithrin perthynas amhriodol yn Rochdale, bod angen edrych eto ar yr achos.
Daw'r alwad wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd neb wedi gweithredu yn dilyn rhai o gwynion cynnar dioddefwyr.
Partïon rhyw
Yn Hydref 2018 clywodd y rheithgor, yn Llys y Goron Caerdydd, sut y gwnaeth y pâr priod o'r Barri gam-drin merched yr oeddynt wedi'u denu atynt.
Mae dau o'r dioddefwyr wedi siarad â rhaglen Wales Investigates ac mae eu straeon yn awgrymu y gallai Peter ac Avril Griffiths fod wedi'u cael yn euog flynyddoedd yn ôl.
Fe wnaeth Sally Ambridge aros 25 mlynedd cyn dweud bod Peter Griffiths wedi ei threisio pan yn blentyn - roedd hi'n ofni na fyddai neb yn ei chredu.
Dywedodd: "Roedd e'n arfer ein denu mewn ar gyfer ein treisio. Roedden nhw'n dîm a byddai'r ddau yn ei wneud e gyda'i gilydd.
"Roeddwn yn lwcus fy mod yn rhy ofnus i ladd fy hun neu mi fyddwn wedi gwneud hynny. Roeddwn yn teimlo mor isel â hynny, ond roedd rhan ohonof yn dweud 'na, meddwl am dy deulu' - roedd e'n ofnadwy."
Nid Sally oedd yr unig un i gael ei cham-drin gan y cwpl.
Saith oed oedd Joanne Down pan gafodd ei thargedu gyntaf gan Peter Griffiths.
Roedd e'n briod â'i hanner-chwaer hynaf Avril ac roeddent yn ei gwarchod yn eu cartref.
Mae'n cofio digwyddiadau yn cael eu cynnal ar gwch pysgota a hi'n cael ei threisio mewn partïon rhyw.
Yn yr achos fe wnaeth hi ddisgrifio y tro diwethaf iddi gael ei cham-drin ar y cwch a sut y credai bod rhai o'r dynion yn swyddogion heddlu.
Wrth siarad â rhaglen Wales Investigates dywedodd Joanne: "Rwy'n credu [bod rhai ohonynt] yn blismyn.
"Dwi ddim yn credu eu bod yn gweithio nac ar ddyletswydd ar y pryd gan eu bod wedi hanner gwisgo. Roedd eu crysau wastad wedi'u datod, eu teis yn rhydd a'u cotiau a'u hetiau yn hongian.
"Dyna sut ro'n yn gwybod mai plismyn oedden nhw - heblaw'r ffaith eu bod yn ymffrostio hynny."
Dywedodd Joanne hefyd bod y cwpl Griffiths yn arfer mynd â hi i feysydd parcio yn ne Cymru yn y 1980au ac i lefydd eraill i gyfarfod â phedoffiliaid.
"Mi fyddent yn parcio yno ac mi fyddai eraill yno," meddai.
"Roeddent yn arfer ein cymryd - fi yn sicr - ac yna ein pasio o amgylch. Doedden nhw ddim yn gweithredu ar eu pennau eu hunain."
Mae menyw arall - a oedd yn un o'r prif dystion yn achos y cwpl o'r Barri - yn cefnogi honiad Joanne am bresenoldeb plismyn mewn cwch yn ystod un digwyddiad.
Nododd y tyst sydd am aros yn ddi-enw: "Roedd yna blismyn ar y cwch. Roedd yna ddynion mewn gwisg heddlu, cotiau'r heddlu a physgotwyr gan eu bod yn gwisgo siwmperi gwlân trwchus - y rhai ry'ch yn eu cysylltu â physgotwyr."
Dywed y tyst na ddywedodd wrth neb ar y pryd - yn ystod y 1980au diweddar - beth yr oedd wedi'i weld.
"I bwy fyddech chi'n adrodd y stori? Chi fod i ymddiried yn yr heddlu."
Dim cofnod o honiadau
Nid dioddefwyr yn unig oedd y rhai a deimlai y dylid fod wedi cynnal ymchwiliad i Peter ac Avril Griffiths.
Mae'r BBC hefyd wedi siarad â chyn-weithiwr gwasanaethau cymdeithasol a soniodd am ei phryderon wrth weithwyr cymdeithasol yng Nghyngor Bro Morgannwg yn y 1990au hwyr.
Gan siarad yn ddi-enw dywedodd ei bod yn bryderus am les un merch ifanc wedi iddi ymweld â chartref y cwpl.
Dywedodd: "Roedd hi'n edrych tua 14 neu 15 oed. Doedd hi ddim yn un o'u plant nhw.
"Doedd Peter ddim yno ar y pryd ond pan adawodd Avril yr ystafell, dywedodd y ferch wrthyf ei bod yn aros gyda nhw. Dywedodd hefyd bod y cwpl wedi bod yn tynnu lluniau ohoni yn noeth.
"Daeth Avril yn ôl a dywedodd wrthyf bod hi a Peter yn maethu'r ferch, ond doeddwn i ddim yn ei chredu gan fy mod yn gwybod fod Peter wedi'i gael yn euog o drosedd rhyw."
Dywed y fenyw ei bod wedi sôn am ei phryderon wrth dîm gwasanaethau plant y cyngor.
Mae'r BBC wedi gofyn i Gyngor Bro Morgannwg a wnaethon nhw ymchwilio i'r honiadau.
Dywed y cyngor "ei bod hi'n amhosib dod o hyd i unrhyw gofnodion am yr achos gan nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth am y ferch".
Dywed Heddlu'r De eu bod wedi ymchwilio i gofnodion gwasanaethau cymdeithasol a ddim wedi dod o hyd i unrhyw honiadau am y cwpl yn y 1990au.
Colli cyfle?
Dywed Joanne ei bod hi hefyd wedi nodi pryderon.
Yn y 1980au, yn fuan wedi iddi gael ei threisio ar gwch teulu'r Griffiths, fe wnaeth hi ddweud wrth weithiwr cymdeithasol ac am gyfnod cafodd ei rhoi yng ngofal Cyngor De Morgannwg.
Mae'n credu petai gweithredu wedi digwydd yr adeg honno y byddai merched eraill wedi osgoi cael eu cam-drin.
"Roeddwn wedi meddwl y byddent yn cael eu hatal, y byddwn i'n cael cymorth. Roeddwn yn meddwl y byddai Peter ac Avril yn cael eu harestio ond ddigwyddodd dim byd."
Yn 2000 fe glywodd Joanne honiadau newydd am Peter Griffiths yn cam-drin plant. Dywedodd hi wrth Heddlu'r De am ei phrofiadau, gan nodi y gallai swyddogion ddod o hyd i luniau anweddus yng nghartref y cwpl ac fe ddisgrifiodd hefyd y dynion eraill oedd yn y cwch.
"Dywedais hefyd wrthynt pwy oedd y merched eraill yn yr albwm - un ohonynt oedd Sally Ambridge."
Dywed Joanne i'r heddlu ddweud wrthi eu bod wedi mynd at y merched ond nad oeddynt am gydweithredu.
Dywedodd yr heddlu iddyn nhw ymchwilio i honiad yn 2000, ond ar ôl cyfeirio'r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron roedd penderfyniad i beidio cymryd camau pellach.
Dim ond 18 mlynedd yn ddiweddarach - ar ôl yr achos - y darganfu nad oedd yr heddlu wedi siarad â Sally.
Dywed tyst allweddol a oedd yn y cwch y noson y cafodd Joanne ei threisio ei bod hi hefyd wedi sarad â'r heddlu yn 2000 - unwaith ei bod yn gwybod bod Joanne wedi gwneud honiadau am Peter ac Avril Griffiths.
Dywedodd: "Mi wnes i siarad â ditectif. Dywedodd y byddai'n dod i'm gweld a mynd trwy popeth ond 'nes i ddim clywed ganddo wedyn."
Tystiolaeth Sally Ambridge a arweiniodd at achos yn erbyn y cwpl.
Pan aeth hi at yr heddlu yn 2015 gan ddatgelu beth oedd wedi digwydd iddi, fe wnaeth y Ditectif David Rich ddechrau crynhoi tystiolaeth ar gyfer achos a arweiniodd at erlyn y ddau.
Roedd eisoes yn ymwybodol o'r cwpl ers iddo symud i'r Barri i weithio fel plismon yn 2000.
Dywedodd: "Wrth blismona yn y nos roeddech wastad yn gweld fan wen wedi'i pharcio yng Ngerddi'r Knap ond welais i erioed mohonynt, 'nes i ddim siarad â nhw.
"Dim ond sibrydion oedd 'na - pam fod y fan wedi'i pharcio yn Y Knap? Peter ac Avril oedden nhw.
"Dwi'n meddwl bod yr heddlu yn credu mai cyfnewid gwragedd oedd yn digwydd. Doedd yna ddim byd i awgrymu bod yna weithgaredd a oedd yn cynnwys plant."
Dywedodd y Ditectif Rich ei fod wedi methu dod o hyd i unrhyw ddogfennau gan y gwasanaethau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chwynion Joanne.
Dywed Heddlu'r De nad ydynt wedi gallu dod o hyd i ddigon o dystiolaeth fod y cwpl yn gysylltiedig â rhwydwaith o bedoffiliaid.
Dinistrio dogfennau
Yn ystod yr achos dywedodd Peter Griffiths bod y cwpl yn arfer gwneud ffilmiau pornograffig. Mewn un ohonynt fe wnaethont ffilmio nhw eu hunain a thyst yn yr achos yn cael rhyw gyda ffrind gwrywaidd i Griffiths.
Dywedodd Peter Griffiths bod yr un dyn wedi cael rhyw gyda Joanne yn eu cartref.
Mae plismyn wedi derbyn enw y dyn dan sylw ers diwedd yr achos ond nid ydynt wedi holi Joanne na'r tyst allweddol amdano ers i'r cwpl gael eu carcharu.
Dywed y llu, er iddynt wneud ymholiadau eu bod eto i ddod o hyd i'r dyn.
Pan ailagorodd yr heddlu yr achos yn 2015, roedd y dystiolaeth a gafodd ei rhoi gan Joanne ar goll. Cafodd y ffeil ei cholli mewn llifogydd a chopi ohoni ei ddinistrio.
"Diolch byth, ry'n bellach wedi prynu system a fydd yn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, ond yn anffodus yn 2000 doedd y system ddim yn bodoli," meddai'r Ditectif Rich.
"Mae'r ffordd yr ydym yn delio â gwybodaeth yr heddlu bellach wedi newid a bydd dogfennau ddim yn cael eu dinistrio."
Mae Joanne a Sally wedi cwyno am y ffordd y gwnaeth Heddlu'r De ddelio â chwynion yn 2000.
Dywedodd yr heddlu: "Ers achos Peter ac Avril Griffiths, mae gwybodaeth ynghylch cysylltiadau honedig rhwng swyddogion yr heddlu a Peter Griffiths wedi eu hadrodd. Mae'r ymchwiliad yn parhau."
Nodwyd hefyd y byddent yn archwilio i honiadau am bedoffiliaid eraill petai tystiolaeth newydd yn dod i law.
Dywed Mr Afzal, cyn-brif erlynydd achosion cysylltiedig â gangiau a oedd yn meithrin perthynas amhriodol yn Rochdale, bod angen adolygu achos y cwpl Griffiths gan edrych yn benodol a oedd cyfleon wedi'u colli ac a oedd pedoffilaid eraill ynghlwm â'u gweithgareddau.
Dywedodd: "Os ydym yn credu straeon y dioddefwyr - ac yn amlwg yr oedd y rheithgor yn eu credu - am y gamdriniaeth gan y cwpl yma, pam nad ydych yn eu credu pan maent yn dweud bod yna bobl eraill yn gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd?
"Petai'n gynllwyn neu'n rhyw fath o anallu, dwi ddim yn gwybod, ond dylid cynnal adolygiad."
Dywed Heddlu'r De eu bod yn disgwyl y safonau uchaf posib gan staff a swyddogion a'u bod yn cymryd unrhyw gŵyn neu honiad yn ymwneud ag ymddygiad unigolyn yn gwbl ddifrifol.
Lost Girls: Dark Side of the Island, BBC1 Cymru, 20:30, 29 Ebrill ac ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018