Carcharu gŵr a gwraig o'r Barri am gam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Peter ac Avril GriffithsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae pâr priod o'r Barri wedi cael dedfrydau hir o garchar ar ôl i lys eu cael yn euog o gyfres o droseddau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.

Mae Peter Griffiths, 65, wedi ei ddedfrydu i gyfanswm o 21 mlynedd o garchar ar ôl i Lys y Goron Caerdydd ei gael yn euog o wyth cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn a thri chyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Cyfanswm o 15 mlynedd o garchar yw dedfryd ei wraig Avril Griffiths, 61, wedi i reithgor ei chael hithau'n euog o bum cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn a dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Roedd y ddau wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 90au yn erbyn merched oedd yn blant ar y pryd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr erlyniad fod y cwpl yn gweithio fel tîm i hudo a cham-drin plant

Clywodd y llys fod y cwpl wedi cam-drin plant yn eu cartref, ar gwch ac mewn fan.

Roedd yr erlyniad yn dadlau bod y cwpl yn arfer cynnal partïon rhyw ar gwch, ac yn gweithio fel tîm gan "ecsbloetio pob un o'r merched er mwyn bodloni eu chwantau rhywiol".

Fe wnaeth un o'r achwynwyr eu disgrifio yn y llys fel "Fred a Rose West" eu stad dai.

Hunllefau

Mewn datganiadau yn amlinellu effaith y troseddau ar y dioddefwyr, clywodd y llys bod y dair ferch wedi troi at gyffuriau mewn ymgais i angofio'r hyn oedd wedi digwydd iddyn nhw.

Dywedodd un eu bod wedi "dinistrio" ei bywyd a'i phlentyndod, a'i bod "wastad yn ofni" bod rhywun yn mynd i ymosod arni.

"Roeddwn yn beio fy hun am gyfnod hir," meddai. "Mae'r camdriniaeth wedi effeithio fy iechyd meddwl hyd fy oes."

Dywedodd merch arall ei bod wedi ceisio lladd ei hun a'i bod yn dal i frwydro yn erbyn yr atgofion sy'n ei phoeni.

Roedd y cwpl, meddai, wedi gweld ei bod yn fregus a manteisio arni.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Peter Griffiths yn cyrraedd y llys i gael ei ddedfrydu

Dywedodd y trydydd achwynwr ei bod yn dal i gael hunllefau oherwydd yr ymosodiadau arni.

"Rwy' mor ofnus," meddai. "Ro'n i'n teimlo'n ddi-rym pan wnaeth Peter fy nhreisio."

Penderfynodd y rheithgor yn unfrydol eu bod yn euog o 22 allan o'r 24 o gyhuddiadau yn eu herbyn.

Roedd y barnwr wedi rhoi gorchymyn i'r rheithgor gael y diffynyddion yn ddi-euog yn achos un cyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn oherwydd diffyg tystiolaeth.

Honiadau newydd

Mae'r dedfrydau'n adlewyrchu difrifoldeb y troseddau, yn ôl arweinydd ymchwiliad Heddlu De Cymru i'r achos.

Dywedodd y Ditectif Sarjant David Rich bod y dioddefwyr wedi bod yn ddewr eithriadol gydol yr achos a'i fod yn gobeithio bod modd iddyn nhw symud ymlaen gyda'u bywydau.

Yn ôl y Ditectif Prif-arolygydd Justin Evans mae dau berson wedi mynd at yr heddlu ers i Peter ac Avril Griffiths eu cael yn euog gyda honiadau o droseddau rhyw hanesyddol.

"Rydym yn ymchwilio i'r honiadau yma ac mae'r achwynwyr yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol," meddai.

Ychwanegodd: "Ers yr achos, mae rhagor o wybodaeth ynghylch honiadau o gysylltiadau rhwng swyddogion heddlu a'r diffynnydd Peter Griffiths wedi ei rhoi i'r heddlu. Mae'r ymchwiliad hwnnw yn parhau."