Cost iawndal y diciâu yn 'anghynaladwy' medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae'r gost o ddelio ag achosion o'r diciâu mewn gwartheg yn "anghynaladwy ar y pwrs cyhoeddus", yn ôl y gweinidog dros faterion gwledig.
Er bod cwymp yn y nifer o achosion o'r clefyd, cafodd dros £14m ei dalu mewn iawndal i ffermydd yn 2018/19.
Dywedodd Lesley Griffiths y bydd adolygiad o'r iawndal sy'n cael ei dalu yn digwydd "ar adeg briodol", gyda'r bwriad o "sbarduno ffermwyr i gadw at arferion da ac osgoi arferion drwg".
Yn ôl Aled Jones o NFU, fe fyddai adolygiad o'r iawndal yn "hollol amhriodol" nes bod niferoedd y clefyd yn gostwng.
Mae'r ffigyrau diweddara' yn dangos bod 11,233 o wartheg â'r diciâu wedi cael eu lladd yn 2018, cynnydd o 12% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ond yn ystod yr un cyfnod roedd 'na gwymp o 5% yn nifer yr achosion newydd o'r clefyd.
Dywedodd Ms Griffiths fod hyn yn profi bod rhaglen gwaredu TB gan Lywodraeth Cymru, gafodd ei gyflwyno yn 2017, yn gwella'r sefyllfa.
Mesurau gwyliadwriaeth llymach a mwy o brofion sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd, yn ôl Ms Griffiths.
Ond fe bwysleisiodd y gweinidog bod y gost ariannol o ddifa'r gwartheg yn ormod o faich ar arian trethdalwyr.
Mae'r taliad blynyddol diweddara' wedi cynyddu o £11.7m yn 2017/18 a £10.9m yn 2016/17, gyda'r Undeb Ewropeaidd yn gyfrifol am 13% o gyllideb y cynllun yn 2017/18.
Mae BBC Cymru'n deall bod swyddogion yn poeni y bydd nawdd o'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cynllun gwaredu TB yn cael ei leihau eleni, gan roi mwy o bwysau ar gyllid Llywodraeth Cymru.
'Dim byd newydd'
Ar ôl gwrando ar gyhoeddiad y gweinidog yn y Senedd, dywedodd Aled Jones o NFU Cymru nad oedd y cyhoeddiad yn cynnwys "dim byd newydd".
Yn ôl dirprwy lywydd yr undeb, mae hi'n "hollol amhriodol" i adolygu'r system iawndal i ffermwyr "nes bod gostyngiad sylweddol yn niferoedd y clefyd" yng Nghymru.
Eglurodd Mr Jones y byddai'n "llawer gwell gan ffermwyr i gael 11,233 o anifeiliaid yn fyw ac yn iach ar eu ffermydd - dydyn nhw ddim eisiau gweld y clefyd yma".
Y farn gan Andrew RT Davies o'r Ceidwadwyr yw bod "Llywodraeth Lafur Cymru yn colli'r frwydr yn erbyn TB, a bod hyn yn achosi llawer o ansicrwydd ymysg busnesau ffermio".
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â TB?
Mae'r cynllun newydd wedi rhannu'r wlad yn ranbarthau gwahanol, ar sail graddfa'r broblem ym mhob ardal.
Y bwriad yw cadw'r clefyd allan o'r ardal risg-isel yng ngogledd orllewin Cymru, wrth gael gwared ohono'n raddol o'r ardaloedd risg-uchel fel y de ddwyrain ac ar hyd y ffin â Lloegr.
Mae ffermydd sydd â hanes hir o broblemau TB yn derbyn cynlluniau gweithredu unigol, a llond llaw yn derbyn ymweliad gan filfeddygon i ddal, profi a difa moch daear os ydyn nhw'n gallu dangos yn glir eu bod yn cyfrannu at yr her.
Ond mae cynllun difa moch daear eang, fel sy'n digwydd mewn rhannau o Loegr, wedi ei wrthod yng Nghymru.
Beth mae'r ffigyrau diweddara'n eu dangos?
Yn 2018, roedd yna 746 o fuchesi ag achosion newydd o'r diciâu yng Nghymru, 5% yn llai nag yn 2017.
Cafodd 59 o gynlluniau gweithredu eu cyflwyno ar ffermydd gyda phroblemau hir dymor, a 21 o'r rheiny bellach wedi gweld cyfyngiadau TB yn cael eu codi.
Tra bod ymdrechion i atal y clefyd rhag taro gogledd orllewin Cymru wedi'u gweld fel "llwyddiant", roedd 'na 34 o achosion newydd yn yr ardal.
Roedd 8 o 10 o'r rheiny yn deillio o symud gwartheg i'r rhanbarth, yn ôl y llywodraeth, er bod ffermydd yn wynebu profi anifeiliaid cyn ac ar ôl eu symud.
Beth arall sy'n digwydd?
Dywedodd Ms Griffiths bod swyddogion hefyd yn ceisio lleihau achosion lle mae'n rhaid saethu gwartheg sydd wedi'u heintio ar ffermydd, er mwyn lleihau effaith emosiynol y sefyllfa ar ffermwyr.
Mae canolfan o arbenigrwydd o ran ymchwil TB wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth a chynhadledd blynyddol wedi'i gynnig.
Yn y cyfamser, mae cynllun brechu moch daear ar ddechrau ar benrhyn Gŵyr.
Daeth arbrawf tebyg gan y llywodraeth i ben yn 2015 yng ngogledd Sir Benfro, yn dilyn prinder byd-eang o'r brechlyn TB.
Dywedodd Ms Griffiths ei bod hi'n bwysig bod ffermwyr a grwpiau bywyd gwyllt yn cydweithio gyda'r llywodraeth: "Ni allaf orbwysleisio gwerth cydweithio wrth geisio dileu TB.
"Trwy weithio'n unllygeidiog gyda'n gilydd mewn partneriaeth at wireddu'r un nod, fe fyddwn ni'n cael gwared ar y clefyd hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017