Llywodraeth yn cyhoeddi targed i ddileu TB erbyn 2041
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu targedau cenedlaethol ar gyfer dileu TB o'r wlad erbyn 2041.
Gobaith y llywodraeth yw y bydd ffermydd Cymru yn rhydd o'r afiechyd rhwng 2036 a 2041.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud fod y newydd yn dod ag "eglurder" i'r broses o ddileu'r afiechyd.
Nod y llywodraeth yw gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o TB, yn ogystal ag ehangu ardaloedd TB isel i mewn i ardaloedd lle mae mwy o achosion.
'Penderfynol'
Yn ymarferol mae'n golygu bod ardaloedd TB isel yn tyfu dros amser i feddiannu'r ardaloedd canolradd, a'r ardaloedd sydd â lefel uchel yn crebachu wrth i'r unedau gofodol gael eu symud i'r ardaloedd canolradd.
Ar ddiwedd pob cyfnod o chwe blynedd, fe fydd y cynnydd yn cael ei asesu a chynlluniau yn cael eu gosod ar gyfer y cyfnod nesaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd Lesley Griffiths: "Rydym wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diwethaf i ddileu TB yng Nghymru.
"Gwelwyd gostyngiad arwyddocaol yn nifer yr achosion ledled y wlad ac rwy'n benderfynol o weld y gwelliant hwnnw'n para.
"Mae angen i ni bellach ganolbwyntio ar amddiffyn yr ardaloedd TB isel rhag i'r clefyd ledaenu iddyn nhw o ardaloedd eraill."
Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi FUW: "Mae gwledydd eraill, megis Seland Newydd, Iwerddon a Lloegr eisoes wedi sefydlu rhaglenni dileu TB mewn gwartheg, ac mae'r Undeb Ewropeaidd wedi tynnu sylw at hyn yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae cael dyddiad targed i Gymru fod yn rhydd o TB yn rhoi eglurder ar y broses drwy ganolbwyntio ar y rhaglen ddileu.
"Yn bwysicach fyth, mae'n darparu atebolrwydd ac yn caniatáu i'r diwydiant werthuso a yw'r strategaeth yn gweithio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd23 Mai 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2015