Busnes yn 'gandryll' wedi trafferth rhyngrwyd Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gartrefi a busnesau yng Ngwynedd wedi cael trafferthion gyda'u cysylltiadau band-eang wedi i geblau gael eu torri yn ystod gwaith ffordd yn Sir Ddinbych.
Yn ôl y cwmni sy'n gyfrifol am rwydweithiau digidol, Openreach, fe wnaeth y sefyllfa effeithio ar o gwmpas 2,000 o linellau band-eang ffeibr a bu peirianwyr yn gweithio dros nos yn Rhuthun er mwyn gosod ceblau newydd.
Fe wnaeth llefarydd ar ran y cwmni ymddiheuro nos Fawrth am y sefyllfa wnaeth effeithio ar nifer o gyfeiriadau â chod post LL53 a darparwyr yn cynnwys Sky, BT a TalkTalk.
Dywedodd y cwmni bod y gwasanaeth wedi'i adfer erbyn 07:00 fore Mercher, gan ychwanegu y dylai pobl sy'n dal i brofi problemau "gysylltu â'u darparwr gwasanaeth fel y gallwn ymchwilio ymhellach".
Mae perchennog siop ym Mhwllheli a fu'n rhaid cau am ddwy awr ddydd Mawrth oherwydd y trafferthion yn dweud ei fod yn "gandryll".
'Ailgyfeirio gwasanaethau'
Am rannau helaeth o ddydd Mawrth roedd cwsmeriaid wedi methu â thalu am nwyddau gyda chardiau credyd mewn nifer o siopau, gan orfod defnyddio arian parod yn hytrach.
Yn ôl negeseuon ar wefannau cymdeithasol, fe wnaeth y sefyllfa effeithio ar gartrefi a busnesau ym Mhwllheli, Porthmadog, Nefyn, Abersoch, Penrhyndeudraeth a Ffestiniog.
Dywedodd llefarydd Openreach bryd hynny: "Cafodd pedwar o geblau eu torri yn ystod gwaith ffordd gan unigolion allanol ychydig cyn 12:00 heddiw, gan effeithio ar o gwmpas 2,000 o linellau band-eang ffeibr.
"Mae peirianwyr wedi bod ar y safle yn Rhuthun ers hynny, ac mae angen gosod pedwar cêbl newydd.
"Mae gwaith yn parhau i ailgyfeirio gwasanaethau tra bo'r gwaith adnewyddu'n cael ei gwblhau, a bydd peirianwyr yn gweithio trwy'r nos i adfer gwasanaethau gynted â phosib.
"Mae'n ddrwg ganddom am unrhyw amhariad i wasanaethau yn y cyfamser."
Dywedodd perchennog siop Spar ym Mhwllheli, Conrad Davies ddydd Mawrth ei fod yn "gandryll" ynghylch y sefyllfa.
"Mi ddechreuodd y problemau tua hanner dydd. Roedd yn rhaid i ni gau am ddwy awr, rhwng 15:00 a 17:00.
"Mae'n ffodus bod hyn heb ddigwydd wythnos ddwytha' yng nghanol cyfnod prysur y Pasg."
Roedd rhai o'r adeiladau fu heb wasanaeth rhyngrwyd heb cysylltiad ffôn hefyd am gyfnod yn ystod y dydd.