Pryderon ynglŷn â newidiadau i wasanaeth BBC Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
claire summers
Disgrifiad o’r llun,

BBC Radio Wales ydi gorsaf cyfrwng Saesneg BBC Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon gydag Ofcom am newidiadau i wasanaeth BBC Radio Wales.

Yn ôl y dirprwy weinidog dros yr economi, fe fyddai'r newid yn golygu nad oes "rhaglen newyddion difrifol" ar gael yn y boreau yng Nghymru.

Mae BBC Radio Wales yn newid eu hamserlen fel bod rhaglen foreol Claire Summers yn cymryd lle rhaglen newyddion Good Morning Wales.

Mewn ymateb, esboniodd y BBC eu bod wedi "ymroi yn llwyr i ddarparu newyddion i'n cynulleidfa eang".

Disgrifiad o’r llun,

Esboniodd Mr Waters bod diffyg gwybodaeth am fformat newydd y rhaglen yn bwydo ei bryderon

Fe fydd rhaglen newydd BBC Radio Wales's Breakfast with Claire Summers yn rhaglen newyddion, heb gerddoriaeth, pan mae'n dechrau darlledu ar 13 Mai, tra bod rhaglen newyddion y prynhawn yn newid i fod yn rhaglen fyrrach.

Roedd Lee Waters yn arfer cynhyrchu rhaglen Good Morning Wales pan oedd yn gweithio yn y BBC ar ddechrau'r 2000au, ac mae wedi beirniadu'r newidiadau yn gyhoeddus.

Mae'r llywodraeth wedi mabwysiadu ei bryderon, a bu Mr Waters yn trafod y mater gyda chyfarwyddwr Ofcom Cymru, Eleanor Marks.

'Cyfrifioldeb i ddarparu'

Eglurodd Mr Waters bod gan y BBC "gyfrifoldeb i ddarparu newyddion difrifol sy'n craffu ac yn beirniadu. Yn union fel mae'r BBC yn ei wneud yn yr Alban ac ar y gwasanaeth rhwydwaith".

"Rwy'n deall bod angen ennyn cynulleidfaoedd a fyddai fel arfer yn gwrando ar radio masnachol, ond dyma'r unig safle sy'n cynnig newyddion dwys i Gymru yn ystod y slot frecwast."

"Mae eu cyfrifoldeb yn mynd tu hwnt i redeg ar ôl cynulleidfaoedd", meddai.

Pan ofynnwyd iddo os oedd yn poeni am ymyrryd ym mhenderfyniadau golygyddol y BBC, dywedodd Mr Waters nad oedd yn gwneud hynny ar "chwarae bach".

"Gyda ninnau'n gweld fod ecosystem cyfryngau Cymru mor fregus, ac ar ôl peth ystyriaeth, penderfynon ni bod modd cyfiawnhau'r penderfyniad."

Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru eu bod nhw'n "ymroi yn llwyr i ddarparu newyddion i'n cynulleidfa eang yng Nghymru, saith diwrnod yr wythnos".

Mae rheolwyr BBC Cymru hefyd wedi gwadu honiadau y bydd y rhaglen foreol yn magu fformat "cylchgrawn", gan ychwanegu y bydd y rhaglen yn parhau i graffu a dadansoddi newyddion y dydd.