Diffyg dealltwriaeth o barlys 'erchyll' ar yr wyneb

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd meddygon yn credu i ddechrau bod Llinos Owen wedi cael strôc

Pan ddigwyddodd am y tro cyntaf yn 2015, fe gafodd Llinos Owen dipyn o sioc.

Aeth hi i'r drych a cheisio "codi ei gwyneb" yn ôl, ond roedd ochr chwith ei gwyneb wedi'i barlysu'n llwyr.

Dim ond ar ôl mynd i'r ysbyty wnaeth hi ddeall nad oedd hi wedi cael strôc, ond yn hytrach roedd ganddi gyflwr o'r enw parlys Bell.

Cyflwr nerfol ydy parlys Bell, sy'n gallu achosi parlys i ran o'r gwyneb a'r corff. Mae'n effeithio ar rhwng 12,000 a 24,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn.

Ond yn ôl elusen Facial Palsy UK mae diffyg ymwybyddiaeth yn golygu nad yw pobl sydd â'r cyflwr yn aml yn cael y driniaeth na'r cymorth angenrheidiol mewn pryd.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu'n dweud y dylai meddygon adnabod y cyflwr, a bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn galluogi gwellhad tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Deffrodd Llinos Owen i weld bod hanner ei hwyneb wedi'i barlysu yn 2015

I Llinos, sy'n 42 ac o Feddgelert, roedd y profiad yn un brawychus.

"I ddechrau mi oeddwn i mewn dipyn bach o sioc achos mi oeddwn i'n mynd i'r drych ac yn trio, fel yda chi, codi eich gwyneb i fyny.

"Ond doedd 'na ddim byd yn digwydd ac mi oedd o'n edrych yn horrific.

"Mi oedd rywun yn meddwl, 'am faint o amser mae hwn yn mynd i fod fel hyn - ydw i'n mynd i fod fel hyn am gyfnod hir o amser?'."

Hefyd o ddiddordeb:

Yn ffodus i Llinos, sy'n fam i ddwy o ferched, fe wnaeth y symptomau ddiflannu ar ôl cyfnod. Ond mae'r parlys yn dal i'w tharo o bryd i'w gilydd.

"Fedra i fod yn siarad 'efo chi ac mi wneith fy ngwyneb i ddisgyn a dwi'n gallu gwybod yn union pryd mae o'n digwydd," meddai.

Yn achos Llinos mae'n debyg ei fod yn gysylltiedig â straen. Y tro cyntaf iddi ddioddef y parlys roedd hi newydd fod drwy gyfnod heriol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tân difrifol yng nghartref Llinos yn yr wythnosau cyn i'r parlys ei tharo

"Mi oeddwn i'n dysgu ar y pryd ac mi oedd ganddo ni arolwg Estyn. Mi ges i alwad ffôn tua 10:00 yn dweud bod y tŷ ar dân. Fe wnes i aros yn yr ysgol tan 15:30 a dod adra i ddyn-â-ŵyr be'," meddai.

"Mi gafon ni dân reit ddifrifol a dweud y gwir. O fewn pythefnos, mi wnaeth fy ngwyneb i ddisgyn.

"Doeddwn i ddim yn teimlo ochr chwith fy ngwyneb."

Yn wyth o bob 10 achos mae pobl yn gwella ar ôl cael parlys Bell, gyda'u gwynebau'n dychwelyd i'r arfer o fewn wythnosau neu fisoedd.

Ond i'r rhai sydd ddim yn gwella, mae'r cyflwr yn gallu newid bywyd yn llwyr.

Teimlo'n 'ofnadwy'

Cafodd Clare Mount, 40, ei tharo gan barlys Bell yn 2003. Mae'r symptomau dal yn amlwg.

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n ofnadwy, mae'n ddinistriol ac mi ydw i'n cuddio fy hun i ffwrdd o bobl," meddai.

"Dwi'n ceisio ymddwyn fel nad ydy o'n fy mhoeni i, ond dy wyneb di ydy o."

Ffynhonnell y llun, Clare Mount
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clare yn dweud bod y cyflwr yn gwneud iddi guddio hi ei hun oddi wrth eraill

Mae Clare, o Grymlyn yn Sir Caerffili, yn dweud bod pobl weithiau'n syllu arni, a bod dieithriaid wedi galw hi'n bob mathau o enwau cas - fel "freak" a "tramp".

Dros y blynyddoedd, mae'n dweud ei bod wedi ei chyfeirio'n anghywir at sawl arbenigwr gwahanol.

Ond yn achos Llinos, mae'n dweud ei bod yn fodlon iawn gyda'r driniaeth y cafodd hi.

"Pan es i'n syth i weld y meddyg teulu, doedd 'na ddim oedi o gwbl. Mi ges i'n anfon yn syth i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac mi ges i fy ngweld yn syth yn fanno," meddai.

"Ges i'r gofal gorau posib... Ond mae profiad pawb yn wahanol am wn i."

Parlys yr wyneb

Yn ôl arolwg diweddar o 421 o ddioddefwyr parlys y wyneb yn y DU, cafodd 19% ddiagnosis anghywir i ddechrau.

Dywedodd 42% nad oedd eu meddygon teulu yn gwybod at bwy neu i le i'w cyfeirio nhw, yn ôl Facial Palsy UK.

Dywedodd 20% gyda pharlys Bell ei fod wedi cymryd dros flwyddyn i weld arbenigwr.

Yn ôl Debbie Byles, un o ymddiriedolwyr Facial Palsy UK: "Y cyflymaf mae rhywun yn cael eu trin, y gorau'r canlyniad.

"Yr hiraf mae'n cael ei adael, yr anoddaf yw trechu'r symptomau."

'Gweddol hawdd i'w adnabod'

Fodd bynnag, mae Dr Mair Hopkin, cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru yn dweud bod parlys bell yn dra-hysbys i'r mwyafrif o feddygon ac yn "weddol hawdd i'w adnabod", er bod modd drysu'r symptomau gyda strôc.

Diagnosis cynnar a steroids sydd bwysicaf, meddai, gan ei fod yn bosib nad yw gwasanaethau arbenigol eraill - sy'n llai hysbys i feddygon teulu - yn gwneud llawer o wahaniaeth beth bynnag.

"Yn anffodus, bychan iawn yw'r dystiolaeth bod unrhyw un o'r triniaethau ychwanegol yma yn gwneud llawer o wahaniaeth yn y tymor hir," meddai.

"Mae'n bwysig sicrhau bod cleifion yn deall bod y mwyafrif yn gwella'n llwyr.

"Lleiafrif bach anffodus sydd angen llawer o gefnogaeth barhaol, ac weithiau llawer o gefnogaeth seicolegol."