Gemau ail-gyfle: Wrecsam 0-1 Eastleigh
- Cyhoeddwyd
Mae breuddwyd Wrecsam o gael dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Pêl-droed Lloegr ar ben wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Eastleigh yn rownd gogynderfynol y gemau ail-gyfle nos Iau.
Yn dilyn hanner cyntaf tawel fe aeth Wrecsam yn agos sawl gwaith ar ddechrau'r ail hanner, gyda'r capten Shaun Pearson a Bobby Grant yn taro'r trawst.
Llwyddodd Kieran Kennedy i roi'r bêl yn y rhwyd hefyd, ond roedd y dyfarnwr o'r farn bod trosedd ar golwr Eastleigh, Luke Southwood.
Gyda'r un tîm yn gallu canfod gôl ar y Cae Ras, fe aeth y gêm i amser ychwanegol.
Yr ymwelwyr lwyddodd i ganfod unig gôl y gêm ar ddiwedd hanner cyntaf amser ychwanegol - Danny Hollands yn sgorio gyda foli wych o du allan i'r cwrt cosbi.
Bydd Eastleigh nawr yn wynebu Salford oddi cartref bnawn Sul yn y rownd gynderfynol, tra bod Wrecsam yn wynebu 12fed tymor yn y Gynghrair Genedlaethol yn olynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019