Cyfle olaf i fynegi barn am daro plant
- Cyhoeddwyd
Penwythnos y Pasg yw cyfle olaf pobl i gyfrannu i ymgynghoriad am wahardd taro plant yng Nghymru.
Dywedodd gweinidogion y byddai dileu'r amddiffyniad o "gosb resymol" yn ei gwneud yn glir nad yw smacio plant "bellach yn dderbyniol".
Mae nifer o elusennau, gan gynnwys yr NSPCC, yn honni y byddai'r newid yn golygu bod Cymru'n ymuno â dwsinau o wledydd eraill, ond mae ymgyrchwyr yn erbyn newid y ddeddf yn poeni y byddai'n gwneud rhieni cyffredin yn droseddwyr.
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Llun, 2 Ebrill.
Dim trosedd newydd
Ni fyddai'r ddeddf newydd yn golygu creu trosedd newydd, ond yn hytrach dileu'r amddiffyniad i gyhuddiadau o ymosod a churo.
Felly ni fyddai gan unrhyw oedolyn sy'n gofalu am blentyn yr hawl i ddefnyddio unrhyw gosb gorfforol yn eu herbyn.
Mae'r ddogfen ymgynghorol yn cyfadde' y byddai cynnydd mewn achosion troseddol i gychwyn, ond y byddai'r nifer "yn lleihau yn y tymor hir wrth i agweddau tuag at gosbi corfforol barhau i newid".
Dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, fod gan Lywodraeth Cymru "record hir o weithio i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac o hybu hawliau plant".
"Mae plant angen disgyblaeth er mwyn deall sut i ymddwyn a'r gwahaniaeth rhwng da a drwg," meddai.
"Ond bydau dileu'r amddiffyniad o gosb resymol yn ei gwneud yn glir nad yw cosbi plant yn gorfforol bellach yn dderbyniol yng Nghymru.
"Rwy'n ymwybodol bod sawl barn wahanol am hyn, felly mae'r ymgynghoriad yn gyfle i bawb ddweud eu dweud er mwyn ein cynorthwyo i ateb pryderon wrth i'r ddeddfwriaeth ddatblygu."
Mae modd ymateb i'r ymgynghoriad ar dudalen bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Y llynedd fe ddaeth Yr Alban y rhan gyntaf o'r DU i wahardd taro plant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017