Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-3 Crystal Palace

  • Cyhoeddwyd
Michy Batshuayi yn sgorio gan roi'r ail gôl i'r ymwelwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michy Batshuayi yn sgorio yr ail gôl i'r ymwelwyr

Mae Caerdydd wedi colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl iddynt gael eu trechu adref yn erbyn Crystal Palace.

Roedd yr Adar Gleision yn gwybod bod rhaid ennill os am unrhyw obaith o aros a chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Bu ond y dim iddynt gael y dechrau delfrydol ond fe darodd ergyd Josh Murphy y postyn.

Ar ôl hynny Crystal Palace oedd yn rheoli'r gêm a'r awyrgylch yn y stadiwm yn un digon tawel a di-gynnwrf.

Roedd anaf Victor Camarasa un o sêr Caerdydd yn ystod y tymor yn ychwanegu at y dasg oedd yn wynebu'r Adar Gleision.

Roedd Crystal Palace yn cael rhwydd hynt i ymosod ac ar ôl 28 munud fe lithrodd Wilfred Zaha y bêl i gornel isaf gôl Caerdydd yn rhwydd iawn.

Ond os oedd Crystal Palace yn cael rhyddid i ymosod, roedd eu hamddiffyn yn wan iawn ac o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu rhwng Guaita a Martin Kelly rhoddodd yr amddiffynnwr y bêl yn ei gôl ei hun, ac roedd hi'n un gôl yr un.

Wyth munud yn ddiweddarach gyda symudiad taclus rhwng Ayew a Batshuayi fe daranodd y bêl i ben y rhwyd ac yr oedd Caerdydd yn colli eto.

'Rhy hwyr'

Roedd y chwarae yn gwibio o un pen i'r cae i'r llall yn ystod yr ail hanner, ond prin oedd yr argyhoeddiad yn chwarae Caerdydd - er bod ambell gynnig da i Murphy a Zohore, ni ddaeth dim o'r un cyfle.

Yna fe dalodd Caerdydd y pris am eu chwarae di-egni, rhoddwyd digonedd o le i Townsend ar ymylon y blwch cosbi a gyda taran o ergyd roedd Crystal Palace wedi claddu gobeithion Caerdydd gyda thrydedd gôl.

Fe ddaeth cyfleon eto i Gaerdydd tua diwedd y gêm - diolch i sawl croesiad gan Mendez-Laing ond ni lwyddwyd i roi'r bêl yn y rhwyd tan i Bobby Reid sgorio yn y munud olaf.

Ond roedd hi'n rhy hwyr i'r Adar Gleision sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair ac fe enillodd Crystal Palace o dair gôl i ddwy.

Bydd Caerdydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Ar ddiwedd y gêm fe wnaeth nifer o'r cefnogwyr aros ar ôl i ddiolch i'r chwaraewyr ac i gyfarch y rheolwr gyda'r geiriau 'There's only one Neil Warnock'.