Canfod 70 o anifeiliaid marw ar dir ffermwr yn Llangadog
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Sir Gâr wedi gorfod talu dirwy a chostau o dros £3,700 ar ôl i swyddogion lles anifeiliaid ddod o hyd i fwy na 70 o garcasau ar ei dir.
Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod tîm lles anifeiliaid wedi dod o hyd i ŵyn a charcasau'n gorwedd mewn nant ar fferm Teifion Williams ym Mronallt, Llangadog yn Chwefror a Mawrth 2018.
Yno hefyd oedd dafad a fu farw yn ystod y broses wyna a hwrdd Mynydd Cymreig Du a fu farw o flinder ar ôl i'w gorn gael ei ddal ar ffens.
Fe wnaeth y ffermwr gyfaddef i sawl trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Yn ôl amddiffyniad Williams, nid oedd wedi bod yn canolbwyntio ar ei fferm oherwydd salwch angheuol ei fam a fu farw ym mis Gorffennaf 2018.
Clywodd y llys fod tîm lles anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymweld â'r fferm ddwywaith ar ôl derbyn cwynion.
'Achos gofidus'
Ar yr ymweliad cyntaf roedden nhw wedi cyfrif 32 o garcasau - gan roi gorchymyn iddo waredu'r carcasau o fewn pedwar diwrnod.
Ond ar ôl derbyn ail gwyn fe wnaeth y swyddogion ymweld â chae arall, ble cafwyd hyd i fwy o garcasau.
Doedd y diffynnydd heb chwaith weithredu ar y gorchymyn yn gofyn iddo waredu carcasau o'r ymweliad cyntaf.
Fe wnaeth post-mortem ar un o'r defaid ddangos lefelau uchel o wyau trichostrongyle a nifer fawr o lyngyr yr ysgyfaint.
Ar ôl yr achos dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod o Fwrdd Gweithredol Sir Gâr: "Rwy'n ddiolchgar am waith trylwyr ein tîm iechyd anifeiliaid o archwilio'r achos gofidus hwn.
"Rydym yn ystyried lles anifeiliaid, a diogelwch sgil-gynhyrchion anifeiliaid, yn ddifrifol iawn, ac nid oedd dewis ond mynd â'r achos hwn i'r llys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019