Maes B: 'Ton newydd o artistiaid yn dod i'r brig'
- Cyhoeddwyd

Y band o Aberystwyth, Mellt, fydd yn cloi yr ŵyl ar y nos Sadwrn
Mae'r artistiaid sydd yn chwarae ym Maes B eleni yn adlewyrchu'r trawsnewidiad sydd wedi bod yn y sîn gerddorol yng Nghymru, yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Guto Brychan.
Cafodd artistiaid Maes B - sy'n rhan o ddigwyddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy - eu cyhoeddi nos Fercher, dolen allanol.
Ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn ystod yr wythnos mae Mellt, Gwilym, Y Cledrau a Candelas.
Dywedodd Mr Brychan wrth Cymru Fyw bod yna "deimlad gwahanol i'r ŵyl eleni" a'i bod yn gyfle i nifer o artistiaid brofi eu hunain ar un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros bedair noson rhwng 7 - 10 Awst, gyda Mellt yn cloi'r cyfan ar y nos Sadwrn.
Y grŵp o Aberystwyth enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018 am eu halbwm 'Mae'n Haws Pan ti'n Ifanc'.

Daeth Gwilym i'r brig mewn pum categori yng Ngwobrau'r Selar eleni
Bydd tri o'r pedwar band sy'n cloi nosweithiau'r ŵyl yn gwneud hynny am y tro cyntaf eleni, ac yn ôl Mr Brychan mae hyn yn ymateb i'r newid clir sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Bob blwyddyn ry'n ni'n ceisio adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y sîn , ond dwi'n meddwl bod yna drawsnewidiad wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf sy'n cyfrannu at deimlad gwahanol i'r ŵyl eleni.
"Mae'r ffaith bod artistiaid blaenllaw fel Yws Gwynedd a Sŵnami, sydd wedi bod yn headlinio nosweithiau am rai blynyddoedd, bellach wedi stopio, yn rhoi cyfle i don newydd o artistiaid ifanc i ddod i'r brig.
"Roedden ni eisiau rhoi cyfle i fandiau mwy newydd i brofi eu hunain ar un o brif lwyfannau cerddoriaeth Cymraeg, ond mae pob un o'r artistiaid hynny yn haeddu eu lle."
'Ymddiried mewn bandiau ifanc'
Dywedodd Ifan Pritchard, prif leisydd y band Gwilym, sy'n cloi'r perfformio ar y nos Wener, bod y lein-yp yn brawf bod trefnwyr gwyliau yng Nghymru yn fodlon ymddiried mewn bandiau ifanc.
"'Da ni wedi bod yn mynd i Maes B ers blynyddoedd i wylio bandiau fel Yws Gwynedd a Candelas ac mae meddwl bo' ni yn headlinio noson dwy flynedd ar ôl i ni ddechra' yn anhygoel," meddai.
"Mae'n brawf bod trefnwyr gigs yng Nghymru yn fodlon rhoi cyfle i fandiau ifanc ac yn fodlon ymddiried ynon ni i arwain nosweithiau fel hyn.
"Mae'r ffaith bod cymaint o fandiau ifanc o gwmpas ar hyn o bryd yn beth gwych, does dim ymdeimlad o us and them o gwbl a dwi'n teimlo bod y lein-yp yn adlewyrchu'r holl wahanol genres a'r gwahanol bersonoliaethau o fewn y sîn ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Mr Brychan fod trefnwyr yr ŵyl yn ymwybodol o'r galw i gynnwys mwy o berfformwyr benywaidd fel rhan o'r ŵyl.
Mae yna gynrychiolaeth fenywaidd ymhob noson o'r ŵyl eleni, yn ogystal â phob haen o'r lein-yp.
"Mae'r elfen yna yn bendant yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried, nid yn unig wrth drefnu Maes B ond wrth drefnu pob un o lwyfannau'r Eisteddfod.
"Mae angen sicrhau bod yr artistiaid yn addas ar gyfer y llwyfan yn ogystal â sicrhau bod cyfle teg i bawb."

Trefn yr artistiaid yn llawn:
Nos Fercher - CANDELAS, Alffa, Chroma, Y Sybs.
Nos Iau - Y CLEDRAU, Fleur de Lys, Omaloma, Lewys.
Nos Wener - GWILYM, 3 Hwr Doeth, Papur Wal, Serol Serol.
Nos Sadwrn - MELLT, Adwaith, Los Blancos, Wigwam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019