Tafwyl yn cyhoeddi artistiaid yr ŵyl yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl

Mae'r artistiaid fydd yn perfformio yng ngŵyl Tafwyl ym mis Mehefin wedi cael eu cyhoeddi.

Ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn yr ŵyl mae Band Pres Llareggub, Caryl Parry Jones, Candelas a Gwenno.

Bydd noson ychwanegol o gerddoriaeth am y tro cyntaf eleni gyda pherfformiadau ar y brif lwyfan nawr yn ymestyn at y nos Wener.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 21, 22 a 23 Mehefin.

Bydd 50 o artistiaid yn perfformio ar hyd pedair llwyfan yn ystod y penwythnos.

Mae Yr Eira, Gwilym, Mellt a Chroma ymysg y rhai fydd yn ymddangos ar y prif lwyfan, gyda HMS Morris, Alffa, Siddi ac I Fight Lions yn chwarae ar lwyfan y 'Sgubor.

Bandiau ifanc yn bennaf fydd ar lwyfan Yurt T, gan gynnwys Sybs, Lewys a'r Cledrau; yna bandiau pres, jazz a charnifal Bass 12, 3D Bass a RT Dixieband fydd yn denu sylw ar Lwyfan y Porth.

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Llynedd fe ddenodd yr ŵyl gerddorol Gymraeg fwy na 40,000 o bobl - y nifer fwyaf ers ei sefydlu 'nôl yn 2006

Ar ben y gerddoriaeth, bydd yr ŵyl yn cynnig cynnwys llenyddol, celfyddydol, chwaraeon a chomedi yn ogystal ag ardal arbennig i blant.

Hefyd, bydd gŵyl ffrinj yn cael ei gynnal ar draws y brifddinas, gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, caffis a bariau rhwng 15-23 Mehefin.

'Eclectig a chyffrous'

Dywedodd Llinos Williams, llefarydd ar ran Tafwyl: "Mae'n grêt gallu cynnig llwyfan i gymaint o artistiaid bob blwyddyn, a chyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd.

"Mae'r line up eleni yn un o'r goreuon eto ac yn dangos pa mor eclectig a chyffrous yw pethau yn y byd cerddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd."

Gallwch weld y rhestr artistiaid yn llawn ar wefan Tafwyl., dolen allanol