Ffermwr yn cynnig help i ddioddefwyr iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd

Mae Eurig Evans yn gwybod beth yw unigrwydd a'i nod yw helpu eraill a all ddioddef o sgil effeithiau bod yn unig
Mae ffermwr o Sir Benfro, sy'n treulio llawer o amser ar ben ei hun, yn dymuno helpu pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl drwy eu gwahodd i'w fferm.
Mae Eurig Evans yn magu 150 o heffrod ar ei fferm 200 erw yn Abergwaun.
Mae e newydd ymgymryd â chwrs i fod yn gwnselydd ac am greu "fferm ofal" i gynorthwyo pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â bywyd.
Yn ddiweddar, dangosodd arolwg o 44,000 o bobl bod 48% wedi profi problem iechyd meddwl yn eu swydd.
Nodir bod gweithwyr amaethyddol yn aml yn fwy tebygol o ddioddef ac mae Mr Evans yn benderfynol o ddefnyddio ei ffordd e o ddelio gyda bywyd i gynorthwyo eraill sy'n ei chael hi'n anodd.
Dywedodd Eurig Evans: "Fel ffermwyr - yn aml 'dyn ni ddim o reidrwydd yn gweld unrhyw un yn ystod y dydd.
"Ond mae gadael y fferm, hyd yn oed am awr, yn therapi ynddo ei hun."
Mae e eisoes wedi dechrau cynnal cyrsiau rhan amser cysylltiedig â'r tir yng Ngholeg Plas Dwbl yng Nghlunderwen.

Mae Eurig Evans yn gobeithio y bydd yr hyn yn mae'n ei gynnig yn help i eraill
Ond mae'r ffermwr o Abergwaun bellach am ehangu fel bod modd i bobl sy'n ei chael hi'n anodd i ymweld â'i dir er mwyn datblygu sgiliau i ddelio â bywyd.
Dywedodd: "Os oes modd rhoi triniaeth i rhywun sy'n gaeth i heroin, mae modd 'neud unrhyw beth."
Mae e'n cynllunio i gynnig gweithgareddau cysylltiedig â natur a chynnal gweithdai gwaith coed. Bydd yna gyfle yn ogystal i fagu ŵyn a godro.
Yn ddiweddar fe dynnodd Menter a Busnes sylw at ymchwil gan elusen iechyd meddwl Mind - roedd yr arolwg yn dangos bod 44,000 o'r rhai a holwyd yn dioddef o broblem iechyd meddwl yn eu gwaith bob dydd.
Mae Menter a Busnes yn gweithio gyda Mind er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a'r gweithgareddau a all fod o werth i ddioddefwyr.
Dywedodd prif weithredwr Mind yng Nghaerdydd, Roger Bone, ei bod yn bwysig creu amgylchedd lle y gellir siarad am faterion iechyd meddwl "yn agored ac heb ofn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018