Bachgen 13 oed a achubwyd o'r môr yn Llandudno wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei dynnu o'r môr oddi ar arfordir Llandudno.
Cafodd y plentyn ei dynnu o'r dŵr ym Mhen y Gogarth toc wedi 21:20 nos Sadwrn wedi i wasanaeth gwylwyr y glannau dderbyn galwad am 20:55.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dyw Heddlu'r Gogledd ddim yn credu bod amgylchiadau amheus yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
'Trasiedi'
Y penwythnos hwn roedd miloedd o bobl yn ymweld â Llandudno gan fod yr Ŵyl Fictoraidd flynyddol yn cael ei chynnal yn y dre.
Dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins: "Mae e'n drasiedi ac mae'n meddyliau gyda'r teulu
"Mae'r digwyddiad yn taflu cysgod ar un o'n penwythnosau mwyaf.
"Ry'n yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf gyda'r teulu ac rwy'n gobeithio eu bod yn derbyn pob cymorth."