Tafarn Twnti ym Mhen Llŷn am fod yn 'galon i'r gymuned'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y perchnogion, Cat Becket a Mike Rowe, eu bod nhw'n gobeithio gallu "rhoi 'wbath 'nôl i'r gymuned"
Mae tafarn wledig yng Ngwynedd yn gobeithio bod yn "galon i'r gymuned" drwy gynnig amryw o wasanaethau i drigolion lleol.
Ers i'r unig siop yn Rhydyclafdy gau mae pobl y pentref wedi gorfod teithio i Bwllheli i wneud eu neges, tan i berchnogion Tafarn Tu Hwnt i'r Afon, neu Twnti, ddechrau ar eu menter newydd.
Mae Cat Becket a Mike Rowe wedi dechrau rhedeg siop o'r dafarn, ac yn ystyried cynnig gwasanaethau post a barbwr o'r safle hefyd.
Dywedodd Ms Becket ei bod hi'n bwysig cefnogi busnesau Llŷn a cheisio "cadw'r bunt tu fewn i'r ardal yn lle bod o'n mynd allan".

Mae modd archebu'r cynnyrch ar y we neu drwy alw i mewn i'r dafarn
Mae Tafarn Twnti wedi dechrau gwerthu cynnyrch lleol yn y bar, gyda chwsmeriaid yn gallu archebu ar y we neu alw i mewn ar gyfer eu siopa.
"Mae 'na lot o gymunedau yn yr ardal rwan lle mae'r siop, y swyddfa bost neu'r dafarn wedi cau," meddai Ms Becket.
"Ond 'da ni mewn lle da i roi 'nôl i'r gymuned a gobeithio gallwn ni ddod yn galon i'r gymuned yma yn Rhydyclafdy."
"'Da ni 'di sylweddoli hefyd bo' 'na ddim lot o fysiau yn mynd heibio, achos bod lot o'r gymuned mewn oed a ddim yn dreifio. Mae hi'n gallu bod yn anodd iddyn nhw deithio i dre' i 'nôl llefrith ac ati."
Yn ôl Gwilym Hughes, un o gwsmeriaid y dafarn, mae'r siop yn "handi iawn, yn arbennig i'r henoed gan mai un bws yn unig sy'n mynd 'nôl a mlaen i Bwllheli o'r pentref".
Ychwanegodd Ms Becket ei bod bellach yn siarad hefo gwahanol sefydliadau er mwyn cynnig gwasanaethau eraill o'r dafarn unwaith y mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018