Vincent Tan am weld Warnock yn parhau fel rheolwr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i reolwr Caerdydd, Neil Warnock, barhau fel rheolwr ar y clwb y tymor nesaf, er iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe ddisgynnodd yr Adar Gleision i'r Bencampwriaeth yn dilyn colled yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn, ond mae perchennog y clwb, Vincent Tan wedi dweud ei fod am weld Warnock yn aros yn ei rôl.
Er bod gan Warnock, 70, flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb roedd hi'n aneglur os y byddai'n aros heibio diwedd y tymor hwn.
Ond mae sylwadau Mr Tan yn awgrymu bod hynny nawr yn debygol.
Dywedodd perchennog yr Adar Gleision: "Rydw i'n hapus i weld Neil yn aros er mwyn gallu ennill dyrchafiad am y nawfed tro.
"Byddai hynny'n rhywbeth hanesyddol fyddai'n anodd iawn i'w guro."
Yn dilyn y golled ddydd Sadwrn, fe wnaeth nifer o chwaraewyr Caerdydd ddatgan eu bod nhw hefyd gobeithio gweld eu rheolwr yn aros.
Bydd Caerdydd yn gorffen eu hymgyrch yn yr Uwch Gynghrair eleni yn erbyn Manchester United yn Old Trafford ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019