Marwolaeth Pen y Gogarth: Cyhoeddi enw bachgen 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae enw bachgen 13 oed a fu farw ar ôl cael ei dynnu o'r môr ger Pen y Gogarth, Llandudno, nos Sadwrn wedi ei gyhoeddi.
Roedd Dillan Brown yn ddisgybl yn Ysgol John Bright yn y dref.
Cafodd ei dynnu o'r môr ychydig wedi 21:20 nos Sadwrn wedi i Wylwyr y Glannau dderbyn galwad am 20:55.
Wrth roi teyrnged, dywedodd pennaeth yr ysgol bod gan Dillan "galon aur".
Wedi'r digwyddiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw'n credu bod amgylchiadau'r farwolaeth yn amheus.
Dywedodd Pennaeth Ysgol John Bright, Ann Webb: "Cafodd pob un o'r disgyblion a'r staff eu brawychu o glywed am farwolaeth drasig Dillan ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwys gyda'i deulu agos ac estynedig ar yr adeg anodd hyn.
"Roedd Dillan yn aelod poblogaidd iawn o gymuned agos Ysgol John Bright ac roedd ganddo natur gynnes, siriol a chariadus iawn.
"Roedd ganddo galon aur ac roedd yn fab, brawd ac ewythr gofalgar a meddylgar dros ben.
"Roedd yn amlwg iawn pa mor bwysig oedd ei deulu i Dillan a chymaint yr oedd yn eu caru.
"Rydym wedi gwneud trefniadau i fod wrth law er mwyn darparu cefnogaeth fugeiliol a chysur ychwanegol i gyd-ddisgyblion Dillan sydd yn naturiol wedi cael sioc a gofid oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019