Tro pedol ar doriadau i bensiynau Prifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd
Unison prifysgol bangorFfynhonnell y llun, Tracey Paddison
Disgrifiad o’r llun,

Y protestwyr yn dathlu'r fuddugoliaeth tu allan i brif adeilad Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud tro pedol ar benderfyniad i leihau pensiynau eu staff cynorthwyol o 12%.

Roedd y brifysgol am israddio pensiynau rhai o'r gweithwyr ar y cyflogau isaf.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd UNISON Cymru na ddylai staff cynorthwyol gael eu trin fel "gweithwyr israddol".

Cyhoeddodd y Brifysgol na fyddai'r toriadau'n digwydd yn sgil "adborth sylweddol gan staff ac undebau."

Fe fyddai'r cynnig wedi gweld toriadau o 12% i gyfraniad y Brifysgol i bensiynau eu staff cynorthwyol, gweithwyr fel glanhawyr, staff arlwyo, a staff diogelwch.

Pryder yr undebau oedd bod y Brifysgol yn gwneud toriadau i bensiynau'r staff cynorthwyol er mwyn gwarchod pensiynau gweddill y staff.

'Annheg ac anghyfiawn'

Dywedodd Wendy Allison, trefnydd rhanbarthol UNISON Cymru: "Mae hyn yn fuddugoliaeth aruthrol i UNISON",

"Rydym wedi cyffwrdd teimladau o annhegwch mawr ymysg staff cynorthwyol y brifysgol."

"Roedd y staff yn barod iawn i ymateb i'r ymgynghoriad, gan bwysleisio pa mor annheg ac anghyfiawn fyddai'r newidiadau."

"Y gobaith ydi bod hyn yn danfon neges i'r sefydliad na ddylai staff cynorthwyol gael eu trin fel gweithwyr israddol."

"Rydym yn falch bod Bangor wedi gweld y goleuni a gollwng y cynigion".

Mewn ymateb dywedodd y Brifysgol: "Yn dilyn ystyriaeth ofalus o'r adborth a gafwyd ar gynigion i newid cynllun pensiwn lleol y brifysgol, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu heddiw (dydd Mawrth) na fydd y cynllun yn newid".

"Gwrandawodd y Brifysgol yn ofalus ar yr ymatebion a ddarparwyd gan staff, ac mae'n ddiolchgar i bawb a fu'n ymgysylltu'n adeiladol â'r broses ymgynghori."