'Colled fawr' i rygbi llawr gwlad drwy dorri rhaglen pobl ifanc

Clwb rygbi Nant Conwy
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai chwaraewyr a hyfforddwyr rygbi yn pryderu am ddyfodol y gamp ar lawr gwlad yn sgil toriadau i raglen swyddogion hwb Undeb Rygbi Cymru (URC).

Mae swyddogion hwb wedi bod yn gweithio mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch, i ddatblygu'r gamp ymysg pobl ifanc.

Fe ddaw'r pryderon hyn yn dilyn rhagor o doriadau URC yr wythnos hon yn y gêm elitaidd, sy'n peryglu dyfodol y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets.

Yn ôl Rhys Jones, o glwb rygbi Nant Conwy ger Llanrwst, bydd clybiau llawr gwlad "yn stryglo oherwydd y toriadau yma".

Yn y gorffennol mae'r undeb wedi dweud y bydd ailstrwythuro'r rhaglen yn ei gwneud yn fwy effeithiol wrth ddenu pobl ifanc at rygbi.

Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Jones o'r farn y bydd y toriadau yn her i glybiau llawr gwlad

Mae'r swyddogion hwb yn gweithio mewn ysgolion i ddatblygu'r gamp ymysg pobl ifanc.

Ond yn gynharach eleni, penderfynodd URC i dorri'r cyllid ar gyfer ei raglen swyddogion hwb a chyhoeddi cynllun ailstrwythuro er mwyn arbed £5m.

Mae Rhys Jones yn hyfforddwr yn y clwb, dywedodd fod y toriadau diweddar i swyddogion hwb yn "mynd i gael knock-on effect" ar glybiau llawr gwlad.

Dywedodd: "Roedd y swyddog hwb oedd gennym ni... roedd y gwaith oedden nhw'n 'neud yn hanfodol er mwyn cadw'r clwb a'r timau ieuengaf i fynd.

"Roedd y cyswllt rhwng yr ysgolion cynradd a'r clwb yn dda iawn.

"Fydd o'n golled fawr i glybiau sy'n trio annog plant i ddod mewn i ddechrau chwarae rygbi sydd wedyn yn mynd i gael knock-on effect ar y timau hŷn a thimau Cymru."

Dywedodd fod clybiau llawr gwlad yn bwysig i sicrhau chwaraewyr proffesiynol y dyfodol.

"Fa'ma mae'n cychwyn ynde, fan hyn 'da ni'n dechrau magu y chwaraewyr ac yn dysgu nhw i ddod i chwarae a dal i chwarae," meddai.

"Mae 'na glybiau yn stryglo i gael niferoedd mewn i chwarae yn bob oedran... mae hyn am neud o'n waeth 'swni'n feddwl o ran cael y to ifanc i fewn, sy'n cadw'r clwb i fynd a chadw'r gêm yn iach ar y cae.

"'Swn i'n feddwl y byddan nhw yn stryglo oherwydd y toriadau 'ma."

Nant Conwy a Dyddgu HywelFfynhonnell y llun, CLWB RYGBI NANT CONWY
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwaraewr rygbi Cymru, Dyddgu Hywel (dde) yn gyn-aelod o glwb rygbi Nant Conwy

Gyda chlwb rygbi Nant Conwy yn dathlu 45 mlynedd eleni, er mwyn sicrhau fod y swyddogion hwb yn gallu parhau yn yr ardal, mae'r clwb yn casglu arian i ariannu'r swyddog hwb lleol eu hunain.

Bydd aelodau'r clwb yn cerdded 45 o filltiroedd er mwyn codi arian.

Mae Manon Llwyd Rowlands yn aelod o'r clwb a dywedodd fod yr her yn "dangos yr angerdd sydd yna" yn yr ardal.

"Mae'r rhai sy'n 'neud o yn ei 'neud o i'r genhedlaeth nesaf, i gael sylfaen bellach iddyn nhw, sylfaen fwy cadarn i'r dyfodol a gobeithio gallu codi'r pres i gael y swyddog hwb unwaith eto."

Ychwanegodd fod y ffaith fod aelodau'r clwb yn gorfod hel yr arian ei hunain yn siomedig.

"Mae colli hwn, yn enwedig yn y gogledd... yn rhywbeth mawr i'w golli.

"'Da ni'n byw mewn ardal eitha gwledig, ac mae'r swyddog hwb yn benodol, yn enwedig yn yr ysgolion mwy gweldig lle falla does dim gymaint o gyfleoedd o fewn yr oriau ysgol, cael nwh'n mynd mewn yn wyneb cyfarwydd... yn elfen mor bwysig."

Manon Llwyd Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Llwyd Rowlands yn un o'r hyfforddwyr yng nghlwb Nant Conwy

Ychwanegodd: "Mae o'n gweithio ac yn mynd i fod yn golled aruthrol, dyna pam da ni'n cwffio'n galed i drio cael yr ymyrraeth yna i barhau yn yr ardal.

"Mae'r ymgysylltu yn y gymuned ac yn wyneb i rygbi yn yr ardal... wedi gweithio yn wych, mae'r plant wedi bod yn ymateb yn wych o fewn yr ysgolion i'r seisynau.

Cyn Cwpan Rygbi'r Byd y merched ddechrau'r wythnos hon, mae timoedd y merched yng nghlwb rygbi Nant Conwy wedi ailddechrau ymarfer.

Bydd tîm Cymru yn wynebu'r Alban yn Salford ddydd Sadwrn.

Yn eu plith fydd pedair o ardal Nant Conwy. Fe ddechreuodd Nel a Branwen Metcalfe, a'r blaenwyr Gwenllïan ac Alaw Pyrs eu gyrfaoedd rygbi gyda'r clwb yn Nhrefriw ar gyrion Llanrwst.

Mae tad Nel a Branwen wedi cwblhau'r her 45 milltir yn gynharach na phawb arall er mwyn mynd i gefnogi ei ferched dros y penwythnos.

Dywedodd Elgan Metcalfe: "Mae'r daith hon yn ymwneud â llawer mwy na dathlu pen-blwydd.

"Mae'n ymwneud â rhoi'n ôl i'r cymunedau sydd wedi adeiladu'r clwb hwn a sicrhau bod rygbi'n parhau'n hygyrch ac yn fyw yn ein hysgolion."

Elgan Metcalfe
Disgrifiad o’r llun,

Elgan Metcalfe yn codi ei fawd ar ôl cwblhau'r daith gerdded 45 milltir

Wrth baratoi i wylio ei ferched yn chwarae yng Nghwpan y Byd dros y penwythnos dywedodd: "'Dwi'n edrych ymlaen, dwi'n hyderus y gnawn nhw guro ddydd Sadwrn, pan mae rhywun yn gwatchad ei blant ei hun, mae'n wahanol dydi... mae rhywun yn mynd yn emosiynol.

"Heb Nant Conwy, fasa nhw beryg iawn ddim yn cael y cyfleoedd maen nhw'n gael heddiw, mae'r clwb wedi bod yn rhan mawr o'u datblygiad rygbi nhw."

Mae aelodau iau y clwb wedi bod yn edrych ymlaen at wylio'r merched hefyd.

Dywedodd Nel, sy'n 14 oed, ei bod hi'n "anhygoel" gweld pedair o'r clwb yn chwarae i Gymru, a bod pawb yn y clwb yn "prowd iawn" ohonyn nhw.

Dywedodd hefyd pa mor bwysig oedd cael swyddogion hwb yn yr ysgolion, er mwyn annog mwy i'r gamp.

Dywedodd: "Mae lot wedi dod [i'r clwb] gan fod y swyddog hwb wedi annog nhw i ddod yma.

Mared, Lena a Nel
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith, Mared, Lena a Nel sy'n aelodau o glwb dan-16 Nant Conwy

Roedd Mared, 15, sydd yn chwarae i dîm dan-16 Nant Conwy, o'r un farn.

"Dwi'n mwynhau faint o ffrindiau dwi wedi neud, dim just yn y clwb ond clybiau eraill hefyd.

"Oeddan nhw'n rhoi gwersi chwarae rygbi yn y gwersi ymarfer corff [yn yr ysgol], dyna pam nes i ddod i chwarae rygbi, am bo ni wedi 'neud rygbi yn y gwersi ymarfer corff.

Mae Lena, sy'n 15 oed, yn dweud nad ydi hi'n cytuno gyda'r toriadau.

"Mae'n andros o bwysig, gan mae llawer o bobl wedi dod efo mwy o ddiddordeb efo rygbi gan bo nhw'n helpu."

'Newid i gwmpasu Cymru gyfan'

Gofynnwyd i URC am eu hymateb, ond fe gyfeiriodd yr undeb at sylwadau Geraint John, eu cyfarwyddwr cymunedol, o fis Mai.

Dywedodd: "Rwy'n hyderus y bydd y rhaglen wedi'i hailstrwythuro yn fwy effeithiol wrth gadw pobl ifanc yn ymwneud â rygbi a chynyddu lefelau cyfranogiad.

"Y dyddiau hyn mae cymaint mwy o gystadleuaeth nid yn unig o chwaraeon eraill ond amrywiol weithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc.

"Bydd yr hyn rydyn ni'n mynd i'w roi ar waith yn cwmpasu Cymru gyfan yn llawer gwell na'r rhaglen flaenorol.

"Bydd staff URC yn cael eu haildrefnu a bydd eu nifer yn cynyddu gyda chylch gwaith llawer ehangach i sicrhau bod gan bob clwb cymunedol a sefydliad addysgol ledled Cymru gyswllt enwol a lefel gyson o gefnogaeth."