Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Hwlffordd yn oriau mân fore Sul, 5 Mai.
Bu farw Jack Leighton Murdoch, 24 oed o Aberdaugleddau, yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig wedi 01:20.
Roedd yn gyrru car Subaru Impreza glas oedd yn teithio o Hakin i gyfeiriad Hwlffordd pan fu mewn gwrthdrawiad ar Allt Bolton.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y car cyn y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth arall allai fod o gymorth.
Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod DPP/0020/05/05/2019/01/C.