Wal wedi syrthio ar gefnogwyr Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Cae Clwb CaernarfonFfynhonnell y llun, Clwb Tref Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Cartref Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon ydy'r Oval

Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn ymchwilio wedi i ran o wal ddymchwel o flaen cefnogwyr brynhawn Sadwrn.

Fe syrthiodd y wal y tu ôl i gôl ar Gae'r Oval wrth i gefnogwyr cartref ddathlu gôl agoriadol Darren Thomas.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod tri o fechgyn ifanc wedi cael mân anafiadau, ond nad oedd unrhyw un wedi brifo'n ddifrifol.

Fe gadarnhaodd y clwb bod adroddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar y digwyddiad wedi cael ei gyflwyno ac fe fydd pwyllgor y clwb yn ei drafod mewn cyfarfod nos Lun.

Roedd Clwb Caernarfon yn cynnal gêm rownd gyn-derfynol yn erbyn Met Caerdydd ar y pryd, ac fe gafodd y gêm ei gohirio am ychydig er mwyn i bawb gael eu symud o'r ardal lle'r oedd y wal wedi syrthio.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan ⚽ Sgorio

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan ⚽ Sgorio

"Fe dderbynion ni adroddiad gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru y prynhawn yma", meddai Paul Evans ar ran y clwb, "ac roedd yna swyddogion o'r gymdeithas yn bresennol brynhawn Sadwrn."

"Fel rhan o'r drwydded ddiogelwch rydyn ni, fel pob clwb arall yn y gyngrhair, yn gorfod pasio nifer o brofion, gan gynnwys pasio popeth i'w wneud efo ground regulations and safety, a 'da ni wedi pasio pob dim.

"Damwain oedd o, a bydda neb wedi gallu rhagweld hyn" meddai Mr Evans.

Fe gollodd Caernarfon o 2 - 3 yn erbyn Met Caerdydd, gan golli'r cyfle i fynd i rownd derfynol gemau ail-gyfle Cynghrair Ewropa.

Nid dyma'r tro cyntaf i ran o wal ddymchwel yn y cae yn ystod gêm.

Ym mis Rhagfyr 2014 fe syrthiodd wal ar ben un person ar y cae ar ôl i Gaernarfon sgorio yn erbyn y Seintiau Newydd yn ystod gêm Cwpan Cymru.

"Cafodd y wal honno ei newid, a bellach da ni wedi rhoi barriers yn eu lle", meddai Paul Evans.

"Fedra i ddim rhagweld os mai dyna wnewn ni'r tro hwn hefyd - bydd rhaid aros i'r pwyllgor drafod yr adroddiad yn gyntaf."