Dathlu blwyddyn gyntaf babis Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ychydig dros flwyddyn ers i Caryl Parry Jones gyfansoddi Cân y Babis cyntaf y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2. Ers hynny, bob mis, mae Caryl yn cyfansoddi cân newydd sbon, gan enwi rhai o'r babanod bach sydd wedi eu geni yn ystod y mis hwnnw.

Ond sut flwyddyn mae wedi bod i'r babanod cyntaf a'u rhieni, nawr eu bod nhw bellach wedi cyrraedd carreg filltir a throi'n un oed? Bu Cymru Fyw yn holi'r rhieni blinedig a bodlon:

Gwen Siôn - "Mae Nina wedi cwblhau'r teulu"

Cafodd Nina ei geni ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn chwaer fach i Miri a Lara. Mae ei mam, Gwen, yn edrych nôl ar flwyddyn arbennig iawn:

Ffynhonnell y llun, Gwen Sion

"Mae wedi bod yn flwyddyn brysur ers i Nina gael ei geni, lot o ddillad, lot o sgidia bach a lot fawr o hwyl!

"Mae'n braf gweld perthynas y dair chwaer gyda'i gilydd, mae'r un hyna' yn licio bod yn fam fach iddi a Lara yn cael chwaer fach i chwarae efo.

"Mae fy ngŵr i [y cerddor ac actor Rhodri Siôn] yn teimlo bod 'na lot o ferched yn y tŷ yma!

"O'n i'n yr ysbyty yn reit hir yn aros i Nina gyrraedd a buodd hi mewn gofal arbennig am dipyn, felly mae'n lyfli ei gweld hi'n datblygu, a gweld personoliaethau bach y dair merch yn datblygu yn hollol wahanol.

"Cyn cael Nina do'n i byth yn teimlo mod i wedi gorffen, felly mae Nina wedi cwblhau'r teulu."

Ffynhonnell y llun, Gwen Sion
Disgrifiad o’r llun,

Mae copi o'r gân wedi ei arwyddo gan Caryl Parry Jones, mewn ffrâm yn ystafell wely Nina

Joy Cornock - "Roedd Anni yn syrpreis lyfli."

Mae'r delynores a chantores Joy Cornock wedi gwirioni gyda'i babi Anni Wyn a drodd yn flwydd oed eleni ar Sul y Mamau. Ar ôl cyfnod anodd, roedd hwnnw'n ddiwrnod arbennig meddai:

Ffynhonnell y llun, Joy Cornock

"Daeth Anni i'r byd ar ôl i fi gael canser y fron. Do'n i ddim yn meddwl bo' ni'n gallu cael plentyn, felly roedd hi'n syrpreis lyfli!

"Mae wedi bod yn flwyddyn llawn dop, yn brysur, hapus ac yn lot o waith. Mae Anni'n fabi hapus ac achos dwi'n canu a chwarae'r delyn mae wrth ei bodd yn gwrando ar gerddoriaeth. A bod mas ar y fferm hefyd!

"Dwi'n cofio teimlo'n emosiynol iawn pan glywes i ei henw ar Cân y Babis. Ro'n i wedi bod yn clywed y caneuon ar Radio Cymru a meddwl eu bod nhw'n hyfryd, felly roedd clywed y gân yma gydag enw Anni ynddo yn arbennig iawn ac mae'n neis ei gael ar gof a chadw."

Enfys Hatcher - "Mae Trefor yn dwli ar dractors ac unrhyw beiriannau gydag olwynion mawr!"

Ffynhonnell y llun, Enfys Hatcher

"Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous a dwi 'di dysgu lot! Fel mam am y tro cyntaf, roedd popeth yn newydd, ond dwi 'di 'neud lot o ffrindiau newydd wrth fynd i ddosbarthiadau mewn canolfannau teulu yn Llambed a Thregaron.

"Mae Trefor wedi bod yn fabi da yn bwydo'n dda trwy ei flwyddyn gyntaf, ond nawr mae'n dechre magu plu!

"Ry'n ni'n byw ar ffarm, ac yn ŵyna ar hyn o bryd felly roedd cyfnod ei ben-blwydd yn un oed yn brysur iawn, ond fe gafodd e gacen Jac y Jwc! Mae Trefor yn dangos diddordeb mewn ffermio yn barod, ac yn dwli ar dractors ac unrhyw beiriannau gydag olwynion mawr!

Nia Williams - "Mae'n gariad bach ac yn werth y byd."

Fe wnaeth Dafydd Ifan droi yn flwydd oed ym mis Ebrill, ac mae ei fam Nia yn edrych nôl ar flwyddyn hapus gyda'i phlentyn cyntaf:

Ffynhonnell y llun, Nia Williams

"Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn newid byd, ond ni'n teimlo fod Ifan wedi slotio mewn i fywyd teuluol yn grêt. Rydyn ni wedi addasu a ry'n ni'n joio bywyd fel teulu. Rydyn ni wedi bod bant yn y garafán, ac os ydyn ni'n mynd i rywle, mae Ifan yn dod gyda ni.

"Mae Ifan yn fabi mor hapus, rydyn ni wedi bod yn lwcus ei fod yn cysgu trwy'r nos. Mae wedi bod yn fabi bodlon am y flwyddyn gyntaf, felly gobeithio gawn ni ddim ein cosbi gyda'r terrible twos neu pan fydd e yn ei arddegau! Ond mae'n gariad bach ac yn werth y byd."

Lowri Môn - "Maen nhw'n drysorau arbennig."

Ganwyd efeilliaid i Lowri Môn a'i gŵr Iestyn. Gyda merch fach eisoes, mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i'r teulu:

Ffynhonnell y llun, Lowri Môn

"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd, lle dwi bron â thynnu fy ngwallt ar adegau gyda'r nosweithiau di-gwsg, ond maen nhw'n drysorau arbennig.

"Mae'n anghredadwy edrych nôl dros y flwyddyn a gweld cymaint mae'r ddau wedi datblygu, ac mae eu chwaer Mari wrth ei bodd gyda nhw. Mae wedi bod yn flwyddyn ffantastig a rydyn ni'n edrych ymlaen at y cam nesa'.

"Rydyn ni mor lwcus i gael tri o blant mor annwyl.

"Roedden ni mor falch bod Sara ac Owain wedi eu henwi yng Nghân y Babis, achos mi oedd eu chwaer Mari wedi en henwi pan oedd Cân y Babis ar Radio Cymru. Bob tro dwi'n clywed y ddwy gân, dwi'n emosiynol a mae'n lyfli eu cael ar gof a chadw."

Os hoffech chi gynnwys enw eich babi newydd yng Nghân y Babis, e-bostiwch sioefrecwast@bbc.co.uk

Efallai o ddiddordeb: